Newyddion S4C

Caernarfon a Phenybont yn brwydro am le yn Ewrop

Sgorio 18/05/2024

Caernarfon a Phenybont yn brwydro am le yn Ewrop

Brynhawn Sadwrn, bydd tymor 2023/24 y Cymru Premier JD yn dod i ben pan fydd Caernarfon yn croesawu Pen-y-bont i’r Oval yn rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda’r enillwyr yn hawlio eu lle’n Ewrop.

Mae’r Seintiau Newydd (1af), Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) eisoes wedi sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop ar gyfer tymor 2024/25, a bydd Caernarfon a Pen-y-bont yn brwydro am y safle olaf ddydd Sadwrn.

Nos Wener diwethaf fe gymrodd hi 86 munud i Gaernarfon agor y sgorio yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol, gyda Marc Williams ac Adam Davies yn taro’n hwyr ar yr Oval i yrru’r Cofis i’r rownd derfynol.

Roedd hi’n stori wahanol ar Barc Latham brynhawn Sadwrn wrth i Ben-y-bont fynd ar y blaen wedi dim ond pum munud yn erbyn Y Drenewydd cyn mynd ymlaen i ennill yn gyfforddus o bump i ddim gyda Chris Venables a Gabriel Kircough yn sgorio ddwywaith yr un, a Mark Little yn coroni’r perfformiad gyda’i gôl gyntaf i’r clwb.

O’r pedwar clwb gyrhaeddodd y gemau ail gyfle eleni, Pen-y-bont yw’r unig rai sydd heb ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol, a Chaernarfon yw’r unig rai sydd erioed wedi chwarae’n Ewrop.

Er hynny, mae hanes Caernarfon yn y gemau ail gyfle yn un o gynnydd a datblygiad.

Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol.

Yr ystadegau

Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol.

Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd (1-0) ac yna’r Fflint (2-1 w.a.y) ar yr Oval.

Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA), ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd.

Yn ei dymor cyntaf llawn fel rheolwr Caernarfon, fe fyddai’n stori dylwyth teg pe bae Richard Davies yn llwyddo i ddod y gŵr cyntaf i arwain y dref i Ewrop.

O ran Pen-y-bont, fe orffennon nhw yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra).

Ond dyw Pen-y-bont erioed wedi ennill y gemau ail gyfle, gan golli’n y rownd gynderfynol yn erbyn Y Drenewydd yn 2020/21, ac yna’r Fflint yn 2021/22.

Ac felly trwy guro’r Drenewydd y penwythnos diwethaf mae Pen-y-bont wedi cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed, ac yn anelu i fod yr 11eg clwb gwahanol i ennill y gystadleuaeth.

Enillwyr blaenorol y gemau ail gyfle a’u safleoedd yn y gynghrair:

2022/23 – Hwlffordd (7fed)

2021/22 – Caernarfon (4ydd)

2020/21 – Y Drenewydd (7fed)

2019/20 – Dim gemau ail gyfle oherwydd Covid-19

2018/19 – Met Caerdydd (7fed)

2017/18 – Derwyddon Cefn (5ed)

2016/17 – Bangor (4ydd)

2015/16 – Cei Connah (4ydd)

2014/15 – Y Drenewydd (6ed)

2013/14 – Bangor (4ydd)

2012/13 – Y Bala (7fed)

2011/12 – Llanelli (4ydd)

2010/11 – Castellnedd (3ydd)

Record diweddar: 

Caernarfon: ✅➖❌❌❌

Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅➖

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.