Tour de France: Geraint Thomas yn gorffen y pedwerydd cymal

NS4C

Mae Geraint Thomas wedi cystadlu ym mhedwerydd cymal y Tour de France ddydd Mawrth. 

Cafodd y Cymro ei daro mewn damwain ddrwg yn y trydydd cymal ddydd Llun, gan dderbyn triniaeth ar gyfer ei ysgwydd ar ochr y ffordd.

Fe orffennodd y ras 1 munud a 7 eiliad ar ôl Mathieu van der Poel, sydd ar y blaen yn y gystadleuaeth ar hyn o bryd. 

Bydd y pumed cymal rhwng Change a Laval yn digwydd ddydd Mercher.