Newyddion S4C

Teulu dyn o Abertawe fu farw yng Ngwlad Thai eisiau ei gladdu adref

17/05/2024
Simon Brown

Mae teulu a ffrindiau dyn o Abertawe a fu farw tra oedd yng Ngwlad Thai yn galw i’w gorff cael ei ddychwelyd adref er mwyn iddo gael ei gladdu. 

Fe gafodd Simon Brown o gymuned Trallwn ei ddarganfod yn farw yn ei ystafell mewn gwesty yn y wlad tramor yn gynharach y mis. 

Cafodd y teulu gwybod am farwolaeth y gŵr, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Browny, ar 9 Mai, meddai. 

Maen nhw bellach wedi dechrau ymgyrch codi arian er mwyn “dod a Simon adref,” er mwyn iddyn nhw fedru ei gladdu yn Abertawe.

Ond fe fydd y proses yn un gostus, esboniodd ar eu tudalen codi arian, gan eu bod yn gorfod trefnu trafnidiaeth er mwyn ei gludo yn ôl o Wlad Thai i’r DU. 

“Bu farw Simon yng Ngwlad Thai, ardal yr oedd yn hoff iawn o ymweld ag yn aml, ac fe aeth yno sawl gwaith y flwyddyn,” meddai’r teulu. 

“Rydyn ni bellach yn gofyn y rheiny oedd yn adnabod ac yn caru Browny i helpu ni i ddod ag ef adref.” 

Mae’r teulu wedi codi dros £2,000 hyd yma, ac mae ganddynt darged o £10,000 er mwyn gallu cludo Simon Brown yn ôl i Gymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.