Newyddion S4C

Neil Foden yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant

16/05/2024

Neil Foden yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant

Y prifathro oedd hefyd yn bedoffeil.

Roedd Neil Foden wedi gwadu camdrin pum merch ifanc.

Wedi pump awr a hanner o drafod mi gasglodd y rheithgor o saith dynes a phum dyn heddiw bod y gŵr 66 oed o Fae Colwyn yn euog.

Roedd Neil Foden wedi'i gyhuddo o 20 trosedd yn erbyn pum merch dros gyfnod o bedair blynedd.

Heddiw mi gasglodd y rheithgor ei fod o'n euog o 19 o'r cyhuddiadau hynny yn gynnwys 12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn.

Yn ystod yr achos mi glywodd y llys bod Foden wedi'i arestio ar ôl i ferch ddangos ei ffôn i oedolyn arall gyda negeseuon o natur rywiol rhyngddi hi a Neil Foden.

Ar ffôn y diffynnydd mi ddaeth yr heddlu o hyd i luniau ohoni hi.

Mi gafodd y fideo yma ei chwarae i'r llys yn dangos y ferch yn mynd i gar Foden.

Mi fyddai'n chwilio am lefydd diarffordd a'i chamdrin yn y cerbyd.

Mi glywodd yr achos sut y byddai'n camdrin merch arall a hynny mewn gwestai a'r car.

Mi ddaeth yr heddlu o hyd i gyffion porffor yng nghar Foden gyda DNA Neil Foden a'r ferch arnyn nhw.

Roedd o hefyd wedi camdrin merched eraill trwy eu cyffwrdd yn amhriodol.

"'Dan ni yn Heddlu Gogledd Cymru yn rhannu sioc ein cymunedau ac yn ffieiddio ar droseddau Neil Foden.

"Fel prifathro dylai fe wedi bod yn gwarchod a datblygu plant a'u paratoi nhw am y dyfodol.

"Yn lle hynny, cymerodd e fantais o'i swydd fel prifathro a phlant a phobl ifanc bregus ar gyfer ei foddhad rhywiol ei hun."

Fel Pennaeth Ysgol Friars ym Mangor a Phennaeth Strategol Dros Dro Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a chyfnod byr yn cefnogi Ysgol y Gader, Dolgellau roedd Foden yn brifathro blaenllaw.

Ddwedodd o ddim yn ei gyfweliadau efo'r heddlu.

"No comment."

"What does a head teacher do in school?"

"No comment."

Ond wrth roi tystiolaeth yn y llys mi fynnodd ei fod o'n ddieuog a bod y merched yn dweud celwydd.

"'Dan ni'n croesawu penderfyniad yr achos yma.

"Mae'n meddyliau ni efo'r dioddefwyr a'r tystion sydd wedi bod drwy amser anodd yn dod i'r llys a rhoi tystiolaeth.

"Mae'r ffaith bod nhw wedi neud o yn meddwl bod Foden ddim yn gallu camdrin unrhyw un arall."

Mi allai'r statws a'r ffaith nad ydy o'n derbyn yr hyn wnaeth o ychwanegu at ddifrifoldeb y troseddu yn ôl arbenigwr cyfraith.

"Mae 'na wahaniaeth oedran, statws, sefyllfa.

"Mae'r rheiny'n rhoi mantais sylweddol i'r troseddwr ac yn rhoi anfantais sylweddol i'r dioddefwr.

"Yn sgil hynny, mae'n rhywbeth mae'r erlyniad yn mynd i bwysleisio.

"Maen nhw'n sicr wedi gwneud hynny yn ystod yr achos llys.

"Tra mae o'n dod i'r ddedfryd maen nhw'n mynd i wneud hynny eto.

"Bydd yn cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniad y barnwr cyn belled a mae dedfryd yn y cwestiwn."

Safodd Neil Foden yn ddi-emosiwn i glywed yr euogfarnau.

Mi ddywedodd y barnwr bod natur y troseddu mor ddifrifol nes ei fod yn wynebu cyfnod hir o garchar.

Mi aeth y Barnwr Rhys Rowlands yn ei flaen i ddweud ei bod yn anodd credu bod Foden wedi cyflwyno peth o'r dystiolaeth y gwnaeth o wrth geisio amddiffyn ei hun.

Roedd Foden, medd y barnwr, yn ddyn haerllug oedd wedi arfer rheoli eraill ac wedi arfer cael ei ffordd ei hun.

"Mi wnaethoch chwi anwybyddu pryderon eraill" meddai'r barnwr wrth Foden.

"Pobl na fyddai fyth wedi credu y gallech ymddwyn mewn ffordd mor ofnadwy."

Mi aeth y barnwr yn ei flaen i ddweud ei bod hi'n ymddangos bod pryderon wedi'u codi gyda'r awdurdod addysg, Cyngor Gwynedd.

Ond bod y pryderon hynny wedi'u diystyru.

Doedd dim ymchwiliad na hyd yn oed nodiadau wedi'u cadw.

Chafodd dim ei wneud, meddai'r barnwr.

Mae'r ffaith bod Neil Foden wedi parhau i droseddu yn achos pryder.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud heddiw eu bod wedi gweithio ag ymchwiliad yr Heddlu ac y bydd
adolygiad annibynnol yn digwydd i weld pa wersi all gael eu dysgu.

Mae disgwyl i Neil Foden gael ei ddedfrydu fis Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.