Chwaraewr rygbi’r Dreigiau Ashton Hewitt ac 'effaith aruthrol' hiliaeth ar ei iechyd meddwl

Fel pob chwaraewr rygbi proffesiynol, mae gan Ashton Hewitt groen caled. Ond yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae'n dweud ei fod yn amser i siarad.
Pan oedd o’n tyfu i fyny yng Nghasnewydd, fe wnaeth Hewitt brofi hiliaeth, ac mae wedi defnyddio ei blatfform ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau cymdeithasol.
Roedd eisiau bod yn llais dros newid, ond daeth yn darged hefyd. Yn ddyddiol, meddai, byddai'n derbyn llawer o gamdriniaeth a hiliaeth, fel arfer o gyfrifon dienw.
“Roedd yn cael effaith aruthrol,” meddai wrth ITV Cymru Wales. “A dim ond pan wnaeth fy mhartner ddweud wrtha i fod angen i mi stopio a chymryd cam yn ôl, oherwydd fe allai hi weld nad oeddwn i’n fi fy hun. Colli fy nhymer, bod yn wirioneddol sensitif i bethau.
“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n derbyn y gamdriniaeth a wnes i mor aml ag y gwnes i.”
'Crïo'
Dywedodd Ashton Hewitt ei fod wedi profi hiliaeth drwy gydol ei fywyd mewn gwahanol ffurfiau.
“Ond roedd y sylwadau ro’n i’n eu cael ar Twitter jyst yn hollol lethol," meddai.
“Ro’n i braidd yn naïf yn meddwl bod gen i’r statws yma i addysgu, newid y byd a gwneud fy rhan fach."
Roedd e’n credu pe bai’n gallu newid meddwl rhywun a newid agwedd a phersbectif mewn un person yn unig ar hiliaeth, yna byddai’n werth hi.
Fe wnaeth o esbonio: “Mae’n debyg mai hwn oedd un o’r pethau anoddaf i mi ddelio ag ef. Yn aml byddai mam yn crïo, yn gweld y stwff oedd yn cael ei ddweud wrtha i. Ni allai fy chwaer iau ddeall pam ro’n i’n rhoi fy hun yn y sefyllfa - i gymryd yr holl gamdriniaeth yna.
“[Fe ddaeth â] digwyddiadau o hiliaeth yn ôl yn blentyn ro’n i wedi anghofio amdanyn nhw. Byddai mam yn meddwl amdanyn nhw, gan gwestiynu a oedd hi wedi delio â phethau a gwneud digon ei hun i’m hamddiffyn."
'Llanast'
Byddai peth o’r gamdriniaeth y byddai’n ei dderbyn yn ymwneud â’i berfformiad ar y cae rygbi. Roedd rhai yn gobeithio y byddai yn cael anaf cas.
“Do’n i ddim yn disgwyl i’r trolls ddechrau targedu fy mherfformiadau ar y cae,” meddai.
“Fel athletwr proffesiynol, rydych chi wedi arfer â beirniadaeth, ond ro’n i'n cael camdriniaeth hiliol yn ymwneud yn uniongyrchol â pha bynnag gêm oedd hi ar y penwythnos.
“Byddwn i’n eistedd yn y car ar ôl gêm, ro’n i ar fy ffôn yn meddwl ‘iawn, pwy sydd wedi dweud beth amdana i? Pwy sy’n bod yn hiliol a beth fydd yn rhaid i mi ddelio efo fe?’
“Ac yna ar y siwrnai adref, byddwn i’n meddwl ‘iawn, sut ydw i’n ymateb i hyn?’ Ac roedd e jyst yn cymryd dros bopeth.”
Yn ffodus, mae hefyd wedi mwynhau llawer o sgyrsiau positif ac mae ei drydariadau wedi sbarduno trafodaeth bellach a hyd yn oed trafodaethau yn y byd go iawn.
O wahoddiadau i siarad â phlant mewn ysgolion, a derbyn llythyron gan bobl ifanc a oedd “yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli i raddau”.
“Mae pobl yn hoffi meddwl ei fod yn mynd i ffwrdd,” meddai. “Ond dwi’n meddwl bod cymdeithas yn dal i fod mewn tipyn o lanast.”