Newyddion S4C

'Ges i PTSD o'r hyn ddigwyddodd': Galw am fwy o gefnogaeth i fenywod sy’n profi trawma geni

18/05/2024

'Ges i PTSD o'r hyn ddigwyddodd': Galw am fwy o gefnogaeth i fenywod sy’n profi trawma geni

Mae mam o Wrecsam wedi galw am fwy o gefnogaeth i famau sydd wedi profi trawma geni yng Nghymru.

Roedd Amy Stead, 37 oed, wedi bod yn ceisio beichiogi am dair blynedd ond fe wnaeth geni ei mab yn 2019 ei gadael gydag anafiadau gydol oes.

Fe brofodd Ms Stead rwyg mor ddifrifol yn ystod y cyfnod esgor nes bod yn rhaid iddi gael stoma parhaol.

“Roedd rhywbeth wir wedi mynd o’i le,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C. “Felly dyma nhw'n galw am lawfeddyg colorefrol (colorectal) i ddod i'm harchwilio.”

Yn ôl y llawfeddyg, roedd gan Ms Stead “dwll rhwng ei rectwm a'i gwain” ac roedd yn rhaid iddi gael “llawdriniaeth colostomi brys”.

Mae'r fam i ddau o blant ifanc bellach wedi derbyn iawndal o £575,000 am ei hanafiadau.

“Ro’n i angen rhyw fath o ddiweddglo a chyfiawnder,” meddai.

'Sioc'

Am flwyddyn ar ôl genedigaeth ei mab, roedd Ms Stead mewn poen ac yn dioddef o anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

“Ro’n i mewn llawer iawn o boen ac yn gorfod mynd i’r afael â chael babi newydd-anedig a cholostomi - ro’n i mewn sioc, ac fe barhaodd y sioc am tua blwyddyn,” meddai. “Daeth i'r amlwg fy mod wedi cael PTSD o'r hyn a ddigwyddodd."

Mae’r Ymchwiliad Trawma Geni, a gafodd ei gynnal yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, wedi galw am drawsnewid gofal mamolaeth ac ôl-enedigol yn y DU.

Y gred yw bod 30,000 o ferched bob blwyddyn yn y DU wedi wynebu profiadau negyddol wrth roi genedigaeth, gydag un ymhob 20 yn datblygu PTSD.

Image
Amy Stead gyda'i mab
Roedd Amy Stead wedi dioddef o'r cyflwr PTSD am flwyddyn ar ôl genedigaeth ei mab yn 2019

Dywedodd Ms Stead y byddai’n cael rhithwelediadau (hallucinations) am un obstetregydd oedd wedi ei thrin.

“Ro’n i’n cael breuddwydion ei bod hi yn yr ystafell ar ben fy ngwely, a ro’n i’n cael ofnau afresymol pan o’n i’n mynd allan ei bod hi'n mynd i neidio allan o nunlla a chipio fy mabi,” meddai. 

Ychwanegodd Ms Stead ei bod wedi teimlo'n “euog” am effaith ei thrawma ar ei mab.

“Yn ffodus, ni chafodd fy mherthynas gyda fy mab ei effeithio - fe wnes i fondio ag ef yn dda iawn. Ond ro’n i'n teimlo mor euog am yr hyn a ddigwyddodd oherwydd ei fod yn effeithio arno fo,” meddai. 

“Er fy mod yn gwybod nad fy mai i oedd beth oedd wedi digwydd, ro’n i'n teimlo mewn ffordd ei fod oherwydd do'n i ddim yn gallu bod y fam y dylwn fod wedi bod iddo.”

‘Angen mwy o gefnogaeth’

Er bod Ms Stead yn teimlo'n “ffodus” bod gan ei bwrdd iechyd dîm iechyd meddwl amenedigol, roedd yn rhaid iddi ddisgwyl blwyddyn a hanner i gael triniaeth.

Dywedodd ei bod wedi profi “trallod meddwl” yn ystod y cyfnod hwn, ac roedd cefnogaeth gan sefydliadau eraill yn brin meddai.

“Oni bai fy mod yn dod ar draws mam arall mewn grŵp mam a phlentyn oedd wedi profi rhywbeth tebyg, doedd ‘na ddim cefnogaeth arall, doedd 'na neb i siarad efo nhw,” meddai.

Image
Amy Stead a'i mab
Dywedodd Ms Stead bod ganddi "neb i siarad efo nhw" tra'n dioddef o drawma geni

Mae’r MASIC Foundation, sef elusen sy'n cefnogi menywod sydd wedi dioddef anafiadau geni, wedi sefydlu grŵp cymorth i ddioddefwyr yng Nghaerdydd.

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, a oedd eisiau bod yn ddienw, ei bod yn gobeithio ehangu'r grŵp i rannau eraill o dde Cymru.

Ond does dim byd o'r fath yn bodoli mewn rhannau eraill o Gymru - ac mae'r un peth yn wir am y triniaethau arbenigol sydd ar gael.

“Pe na bawn i’n byw yng Nghaerdydd, ni fyddwn wedi gallu cael mynediad i feddygfa arbenigol sy'n fy helpu i reoli fy anymataliaeth yn y coluddyn (bowel incontinence) o'm hanaf sffincter rhefrol (anal sphincter injury) a ddioddefais yn ystod genedigaeth fy mhlentyn cyntaf,” meddai'r gwirfoddolwr.

'Diffyg gwybodaeth'

Mae Mrs Julie Cornish yn ymgynghorydd colorectol sy'n rhedeg uned arbennig ar gyfer poen pelfig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae'r uned yn delio â “chanlyniadau corfforol anafiadau geni” ac yn cynnig gwasanaethau o bob math o adrannau ar draws y bwrdd.

Dywedodd Mrs Cornish nad oes uned arall o'r fath yng Nghymru sy'n gallu cynnig yr un ystod o driniaethau arbenigol.

Mae hyn yn rhannol oherwydd bod gan feddygon “ddiffyg gwybodaeth” am anafiadau geni meddai.

Dywedodd: “Nid oes llawer o wybodaeth i feddygon a myfyrwyr meddygol am rai o'r canlyniadau corfforol.

“Ac mae 'na ddiffyg gwybodaeth am ba lwybr i roi menywod arno er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau cywir ar ôl profi trawma geni.” 

Ychwanegodd bod angen hefyd darparu mwy o wybodaeth ar gyfer menywod eu hunain.

Fel arall, mae'n dod yn anoddach i fenywod wybod nad yw'n normal ac maen nhw'n meddwl bod pawb arall yn ymdopi a'u bod nhw'n bod yn wirion," meddai.

Tra, mewn gwirionedd, mae ganddyn nhw broblem sylweddol ac nid ydynt yn gwybod lle i droi am gymorth.

'Bywyd y tu hwnt i drawma geni'

Mae Ms Stead yn gobeithio gwella'r sefyllfa drwy sefydlu grŵp cymorth ei hun.

Fel rhan o’r ateb, mae hi wedi dechrau cyfrif Instagram o’r enw @colostomymama er mwyn helpu mamau eraill sydd wedi profi trawma geni.

“Do’n i ddim eisiau i neb deimlo mor unig ag o’n i’n teimlo yn y flwyddyn gyntaf ar ôl fy anaf,” meddai.

Image
Cyfrif instagram Amy Stead
Mae Ms Stead yn gobeithio helpu mamau eraill sydd wedi profi trawma geni

Mae Ms Stead yn awyddus i ddweud nad oes ganddi hi'r atebion i gyd - “dydw i ddim yn arbenigwr o gwbl,” meddai.

“Ond fe alla i anfon pobl i’r cyfeiriad cywir, i sefydliadau eraill, os ydyn nhw angen mwy o gymorth.” 

Ychwanegodd: “Neu weithiau, mae'n ymwneud â dweud, do, digwyddodd hynny i mi hefyd, a dw i 'di dod drwyddo hefyd.

“Dyna be dw i'n ei wneud mewn gwirionedd, dim ond dangos bod yna fywyd y tu hwnt i drawma geni.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod diogelwch mewn gofal mamolaeth yn flaenoriaeth allweddol.

“Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd roi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith a darparu gofal cyfannol i fenywod a theuluoedd.

“Yn 2022, lansiwyd y Rhaglen Gymorth Diogelwch Mamolaeth a Newyddenedigol genedlaethol i wella diogelwch, profiad, a chanlyniadau gofal mamol a newyddenedigol yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu Gweithrediaeth GIG Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu i gyflawni'r blaenoriaethau gwella a nodwyd.

“Mae Datganiad Ansawdd cenedlaethol hefyd yn cael ei ddatblygu i adlewyrchu ein penderfyniad i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Ers 2015, rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru. Bellach mae gwasanaethau ym mhob ardal bwrdd iechyd, gyda chymorth £3m o gyllid gwella gwasanaethau iechyd meddwl bob blwyddyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.