Hannah Blythyn wedi ei ‘syfrdanu’ o gael ei diswyddo ac yn gwadu rhannu gwybodaeth â’r wasg
Mae Hannah Blythyn AS wedi dweud ei bod hi wedi ei 'syfrdanu' ac wedi gwadu rhannu gwybodaeth â’r wasg ar ôl cael ei diswyddo o Lywodraeth Cymru.
Mewn datganiad fore dydd Iau, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething ei fod wedi gofyn iddi adael y llywodraeth “ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau”.
Ond mewn datganiad dywedodd Hannah Blythyn ei bod hi wedi ei “syfrdanu” a’i “thristau'n fawr” gan y penderfyniad.
“Rwy'n glir ac wedi bod yn glir na wnes i, ac nid wyf erioed wedi rhannu (leak) dim," meddai.
“Uniondeb (integrity) yw popeth mewn gwleidyddiaeth ac rydw i wedi cadw gafael arno.
“Mae’n fraint aruthrol i blentyn o Gei Connah wasanaethu’r gymuned a’m lluniodd, heb sôn am fod wedi gwasanaethu yn llywodraeth fy ngwlad.
“Nid wyf am ddweud mwy ar hyn o bryd.”
Inline Tweet: https://twitter.com/hannahblythyn/status/1791064957745873131
Yn aelod o’r Senedd dros Ddelyn, hi oedd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, gyda chyfrifoldeb am y cyflog byw, gweithio o bell, y sector lletygarwch a thwristiaeth, manwerthu a'r sector creadigol.
Cafodd ei phenodi i'r swydd ym mis Mawrth 2024 wedi i Vaughan Gething benodi aelodau o'i gabinet newydd ar ôl iddo ddod yn brif weinidog.
Cafodd ei hethol i Senedd Cymru yn 2016, a'i hail-ethol yn 2021 gan etholwyr Delyn.
‘Dim dewis arall’
Mewn datganiad fore dydd Iau, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething:
“Ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y Llywodraeth.
"Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith y mae’r Aelod dros Delyn wedi’i arwain yn y Llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinyddiaeth ar Gynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru, yr adolygiad o’r gwasanaethau tân ac achub, a’n gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol."
Ychwanegodd: “Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymhlith cydweithwyr y Llywodraeth fel ein bod yn gweithio fel un i ganolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru.
“O ystyried doniau a phrofiad Hannah, rydw i wedi bod yn glir bod yna lwybr yn ôl iddi gymryd swydd yn y Llywodraeth eto yn y dyfodol. “Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cefnogaeth barhaus i’r Aelod.”