Casnewydd: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
16/05/2024
Mae dyn lleol 21 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 36 oed yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Heol Cas-gwent yn y ddinas am tua 18:00 y diwrnod hwnnw ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol.
Cadarnhaodd swyddogion ambiwlans fod y dyn, Lee Crewe, wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae'r dyn sydd wedi ei arestio yn parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.
Nid yw Heddlu Gwent yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth y dyn.
Mae swyddogion yn yr ardal yn parhau i gynnal ymholiadau i'r digwyddiad.