Newyddion S4C

Ymateb ffermwyr wrth i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy cael ei oedi tan 2026

16/05/2024

Ymateb ffermwyr wrth i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy cael ei oedi tan 2026

Protest arall yng nghanol Caerdydd gan ffermwyr heddiw ar raddfa fach o'i gymharu a'r golygfeydd rhai misoedd yn ôl. Ond yn atgof arall o'r her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru wrth ennill cefnogaeth i'w cynllun am gymorthdaliadau newydd.

Gwobrwyo dulliau gwyrdd o amaethu yw'r nod. Mwy o goed a chynefinoedd. Ond i eraill, mae'n peryglu dyfodol swyddi a chynhyrchu bwyd.

"We are listening and we will continue to listen."

Ar fferm ym Mro Morgannwg, roedd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig yn mynnu ei fod e'n gwrando ar bryderon ffermwyr.

"Mae fy addewid i gael sgwrs ystyrlon a'r sector ffermio i randdeiliaid eraill ar y newidiadau sydd eu hangen yn yr amserlen weithredu. Rydym bob amser wedi dweud na fyddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod.

"Rwy'n dal i gytuno gyda hynny."

Bellach, fydd y drefn newydd ddim yn dod i rym tan 2026. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd hynny yn rhoi amser i ddod i gytundeb ar rai agweddau dadleuol o fewn y cynllun.

Mae gweddnewid cymorthdaliadau amaeth yng Nghymru yn digwydd oherwydd Brexit. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd bron i ddegawd wedi treulio ers y bleidlais yna i adael yr Undeb Ewropeaidd cyn bod 'na gynllun newydd ar waith yma yng Nghymru.

Croesawu'r newyddion wnaeth yr undebau amaeth.

"Rhaid i'r cynllun newydd fod yn barod cyn bod ni'n dechrau fe. Yn yr hen amserlen, dim ond chwe mis oedd i gael yr SFS yn barod. Gyda faint o waith o'dd eisiau wneud 'wi'n credu bod nhw wedi gwneud y decision iawn."

Ond nôl yng Nghaerdydd, roedd y farn yn gymysg ymhlith y brotest.

"Bydd e'n help ond sa i'n gweud bydd e'n bositif. As long bod nhw'n gwrando mewn blwyddyn a gweld be sy'n digwydd."

"Ie a na. Mae rhai pethau wedi bod yn edrych am. Mae other pethau bod nhw ddim wedi edrych ar a rhaid edrych ar bopeth."

"Ni 'di cymryd yr amser i ddod yma heddiw. Os ydym yn gwneud dim byd, sori, dw i'n mynd yn emosiynol nawr. Os ni'n gwneud dim byd, 'sdim byd yn mynd i wella a newid.

"Mae'n bwysig cymryd stand er mwyn i ffermwyr gallu cario 'mlaen. Fi 'da plant ac maen nhw 'da diddordeb mewn ffarmio. Ar y funud, mae'n galed i wybod os bydd dyfodol gyda nhw."

Gyda'r cynllun yn allweddol i obeithion Llywodraeth Cymru o daclo newid hinsawdd a cholledion natur, mae'r oedi pellach yn siom i amgylcheddwyr.

"Mae pob un ffarmwr yng Nghymru yn gallu cynhyrchu bwyd ac edrych ar ôl yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae'r gwartheg yma'n pori ar gynefin. Dw i'n sefyll ar dir amaethyddol sydd wedi led-wella.

"Tu hwnt, mae 'na goedwig efo clychau'r gog a garlleg gwyllt. Mae hyn i gyd o fewn un parsel. Ni'n trio integreiddio cynhyrchu bwyd ac edrych ar ôl bywyd gwyllt."

"Dros y misoedd diwethaf, mae miloedd o ffermwyr drwy Brydain wedi methu hau hadau oherwydd bod y pridd mor wlyb. Mae hynny'n achosi miloedd a miliynau o golledion.

"Mae hynny wedi digwydd oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Ac eto, mae Llywodraeth Cymru yn gohirio gweithredu yn hytrach na gwneud yr hyn sydd ei angen rwan."

O hyn allan, bydd grŵp o'r diwydiant amaeth ac amgylcheddwyr yn cwrdd yn rheolaidd a'r Llywodraeth sy'n barod i wrando.

Rhagor o amser, ond y pwysau'n parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.