Tri Chymro yn canu Yma o Hyd wrth ddathlu dyrchafiad Ipswich i Uwch Gynghrair Lloegr
Tri Chymro yn canu Yma o Hyd wrth ddathlu dyrchafiad Ipswich i Uwch Gynghrair Lloegr
Roedd Kieffer Moore, Nathan Broadhead a Wes Burns yn canu Yma o Hyd wrth i chwaraewyr Glwb Pêl-droed Ipswich Town fynd ar daith o gwmpas y ddinas i ddathlu dyrchafiad y clwb i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae'r tri wedi chwarae rhan bwysig yn llwyddiant Ipswich y tymor hwn wrth i'r clwb ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf ers 22 mlynedd.
Wrth i'r chwaraewyr a staff fynd ar daith ar fws o gwmpas y ddinas i ddathlu, roedd Moore, Broadhead a Burns wedi sicrhau bod ganddynt faner Cymru a bod cân enwog Dafydd Iwan, Yma o Hyd yn cael ei chwarae.
Roedd y tri yn canu'r gân wrth deithio drwy'r strydoedd ac mae Ipswich wedi rhannu'r deunydd gyda'u cefnogwyr.
Mae Yma o Hyd wedi dod yn ail anthem answyddogol i Gymru, wedi i Dafydd Iwan berfformio'r gân cyn gemau ail-gyfle Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022. Bellach, mae chwaraewyr y tîm yn aml yn ei chwarae cyn gemau.
Fe wnaeth y bocswraig Lauren Price gerdded i'r sgwâr gydag Yma o Hyd yn chwarae cyn ei ornest gyda Jessica McCaskill yng Nghaerdydd nos Sadwrn, pan lwyddodd i fod y Gymraes gyntaf i ennill pencampwriaeth bocsio’r byd.
Inline Tweet: https://twitter.com/dafyddiwan/status/1790003741778665716
Dywedodd Dafydd Iwan bod ei dewis hi i ddefnyddio'r gân wedi ei wneud yn "hynod o falch."
Fe wnaeth Price ymateb gan ddweud y byddai'n hoffi pe bai Dafydd Iwan yn perfformio Yma o Hyd yn fyw y tro nesaf mae hi'n camu i'r sgwâr bocsio.