Newyddion S4C

Gweini dros 20 miliwn o brydau bwyd ychwanegol am ddim yn ysgolion cynradd Cymru

16/05/2024
Prydau bwys ysgolion

Mae dros 20 miliwn o brydau bwyd ychwanegol wedi'u gweini yng Nghymru ers dechrau cynnig prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2022, meddai'r llywodraeth.

Bydd pob plentyn ysgol gynradd a dros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn diwedd 2024.

Ond mae ffigyrau newydd yn dangos bod 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eisoes yn cyrraedd pob disgybl cymwys - cyn y targed ym mis Medi.

Cafodd £260 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ei neilltuo ar gyfer y cynllun prydau ysgol am ddim.  Roedd hyn yn cynnwys £60 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau ceginau ysgol, gan gynnwys prynu cyfarpar a diweddaru systemau digidol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething: "Mae prydau ysgol am ddim i'n holl ddisgyblion cynradd wedi bod yn drawsnewidiol, drwy gadw arian y mae mawr ei angen ym mhocedi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Ni ddylai unrhyw blentyn fynd heb fwyd, a diolch i waith caled ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion - mae mwy a mwy o blant yn cael cinio ysgol maethlon am ddim i helpu i sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio ar ddysgu."

Mae'r cynllun prydau ysgol am ddim yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae prydau ysgol am ddim ym mhob un o'n hysgolion cynradd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau miloedd o blant ac yn helpu teuluoedd ledled Cymru ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw yn cael effaith wirioneddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.