Clwyf coed yn 'risg uchel' yng Ngwynedd am flynyddoedd i ddod
Mae coed sy'n dioddef o glefyd difrifol yn debygol o beri "risg uchel" i Gyngor Gwynedd am flynyddoedd i ddod, meddai swyddogion y cyngor.
Mae arolwg wedi dangos fod 8,000 o goed "risg uchel" yn y sir hyd yma. Ond dim ond ychydig dros 700 o'r coed yma sydd wedi eu torri, ac mae miloedd yn rhagor sydd ddim wedi eu harchwilio o gwbl.
Mae clwyf gwywiad yr onnen (ash dieback) wedi lladd cannoedd o filoedd o goed ledled Ewrop. Mae'r clwyf wedi effeithio ar goed ymhob rhan o Gymru, ac mae'n gallu achosi coed fod yn ansefydlog, ac yn fwy tebygol o ddisgyn.
"O ganlyniad, mae ein hyswirwyr, Zurich Municipal, yn ystyried y risg o goed yn syrthio, a gwywiad yr onnen yn arbennig, fel un o’u blaenoriaethau,"meddai Steffan Jones, pennaeth priffyrdd Gwynedd. "I’r perwyl hwn, mae effaith potensial y clwyf ar ein trigolion a gweithwyr wedi’i gynnwys ar gofrestr risg corfforaethol y Cyngor."
Dywedodd fod y cyngor wedi sefydlu tîm arbenigol i geisio mynd i'r afael â'r broblem. Roedden nhw wedi llunio rhaglen waith i ddelio â'r coed oedd yn peri'r risg mwyaf i'r cyhoedd, yn agos i ffyrdd prysur, ysgolion, a mannau cyhoeddus eraill.
Roedden nhw hefyd yn cyfathrebu a thirfeddianwyr preifat ac yn rhoi rhybudd cyfreithiol os oedd coed peryglus ar dir preifat, gan mai'r tirfeddiannwr fyddai'n gyfrifol amdanyn nhw.
Ond dydi llawer o goed ger ffyrdd gwledig neu mewn ardaloedd mwy anghysbell yn y sir ddim wedi eu harchwilio hyd yma.
"Mewn perthynas â ffyrdd a thiroedd Cyngor Gwynedd, nid oes tystiolaeth bod y clwyf ar drai," meddai Mr Jones. "Hyd yn oed pe bai tystiolaeth ei fod, mae llawer o goed ar ffyrdd a thiroedd y Cyngor yn parhau heb eu harchwilio.
"O ganlyniad, rhagwelir y bydd y clefyd yn parhau i fod yn risg uchel i'r Cyngor ac y bydd y tîm yn ymdrin â'i effeithiau am flynyddoedd i ddod."