Newyddion S4C

Dynes o Fangor oedd gan diwmor ar yr ofari wedi derbyn diagnosis anghywir

16/05/2024
emily-jane .png

Mae dynes o Fangor oedd yn gallu 'teimlo a gweld' ei thiwmor ar yr ofari wedi dweud y byddai hi wedi cael ei thrin yn gynt pe bai wedi cael ei gweld gan feddyg wyneb yn wyneb.

Dywedodd Emily-Jane Siviter, 29, bod meddygon wedi dweud wrthi sawl gwaith ei bod yn dioddef o glefyd y llwybr wrinol (UTI) a'i bod wedi derbyn gwrthfiotigau ar ôl disgrifio ei symptomau i feddygon mewn galwadau ar-lein. 

Fe gysylltodd Ms Siviter gyda'i meddyg teulu ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl profi poen pan oedd yn mynd i'r toiled. 

Derbyniodd apwyntiad ar-lein gyda meddyg, ac fe roddodd wrthfiotigau i drin yr UTI.

Ond fe wnaeth y boen barhau, ac felly fe benderfynodd gysylltu gyda meddyg gwahanol ar-lein yn y gobaith y byddai'n gallu cael atebion am ei symptomau, ond fe dderbyniodd yr un cyngor. 

Ym mis Rhagfyr 2023, fe deimlodd Ms Siviter lwmp yn agos at ei chlun dde, gyda sganiau yn cadarnhau yn ddiweddarach fod ganddi diwmor 17cm ar yr ofari. 

'Gallu ei deimlo a'i weld'

"Roeddwn i yn gallu ei deimlo ac yn gallu ei weld yn llythrennol, roedd fy ochr dde i wedi chwyddo yn fwy na'r chwith," meddai.

"Fe wnes i egluro fy holl symptomau a dweud fy mod i eisoes wedi cael diagnosis o UTI a derbyn gwrthfiotigau ar eu cyfer, a dydyn nhw  ddim wedi gweithio.

"Dwi'n meddwl pe baen nhw wedi gwneud prawf gwaed, byddai hynny wedi eu rhybuddio i wneud rhagor o brofion, ac fe fydden nhw wedi darganfod pethau yn llawer cynt."

Oherwydd ei  hiechyd, mae Ms Siviter wedi  gorfod rhoi'r gorau i'w swydd, ac wedi bod yn dibynnu ar deulu a ffrindiau i'w chefnogi wrth iddi hi wella. 

Cyngor

Dewisodd Ms Siviter i gael hysterectomi, sef triniaeth lawfeddygol i dynnu'r groth, hyd yn oed cyn i'r canser gael ei gadarnhau.

Fe gadarnhaodd biopsi ddechrau Chwefror fod ganddi ddiagnosis ganser yr ofari gradd tri, a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth i gael gwared o unrhyw diwmorau a'r organau atgenhedlu ym mis Mawrth.

Mae hyn yn golygu nad oes modd iddi bellach gael plant ac mae'n debygol y bydd yn rhaid iddi  ddefnyddio bag stoma am weddill ei bywyd.

"Os nad ydych chi'n cael cymorth gan y meddyg teulu ac mae gennych chi ryw fath o boen rhyfedd, gofynnwch am brawf gwaed oherwydd wedyn fe fyddan nhw'n dechrau cymryd pethau yn fwy difrifol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’n ofynnol i bractisau meddygon teulu yng Nghymru gynnig cymysgedd o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a rhai rhithiol sy’n briodol i anghenion cleifion.

"Rydym yn disgwyl i bractisau ddilyn canllawiau proffesiynol a gyhoeddwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ar ddefnyddio ymgynghoriadau rhithiol mewn practis cyffredinol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.