Y newyddiadurwraig Nia Thomas 'wrth ei bodd' yn dychwelyd i ohebu ar y byd amaeth
Mae'r newyddiadurwraig Nia Thomas 'wrth ei bodd' o gael dychwelyd i ohebu ar y byd amaeth.
Wedi cyfnod o wyth mlynedd fel gohebydd materion gwledig BBC Cymru dros 20 mlynedd yn ôl, mae Nia bellach yn ôl yn gohebu, a hynny ar gyfer rhaglen Ffermio ar S4C.
Fe gafodd Nia ei phenodi yn ohebydd materion gwledig adran Newyddion BBC Cymru yn 2000, ond roedd wedi bod yn gohebu yn wythnosol cyn hynny hefyd ar raglen amaeth Ar y Tir ar ddechrau'r 90au.
"Nes i ddechra yn Tachwedd 2000 ac wedyn o'n i'n gwneud eitemau radio a theledu ag ar-lein yn Gymraeg a Saesneg. Fysa'r amseru ddim wedi gallu bod ddim gwell neu ddim gwaeth achos oedd hwnnw'n gyfnod anhygoel o ran y diwydiant amaeth hefyd," meddai.
O broblemau yn ymwneud ag Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE), neu 'Clefyd y Gwartheg Gwallgof", i wahardd hela gyda chŵn, roedd yna sawl pwnc llosg amaethyddol yn ystod y blynyddoedd hyn.
'Y sioc a'r effaith ar gefn gwlad'
Ond mae un achos yn benodol yn aros yn y cof i Nia, sef Clwy'r Traed a'r Genau.
"Mis Chwefror 2001 sef ryw ychydig fisoedd ar ôl i mi gael fy mhenodi ddoth un o straeon mwyaf diweddar y diwydiant amaeth sef Clwy'r Traed a'r Genau," meddai.
"Mi gadarnhawyd yr achos cyntaf yn y lladd-dy yng Ngaerwen ym mis Chwefror 2001 a dwi'n cofio cael dwy alwad ffôn, ag oedd rywun yn gwbod wedyn bod 'na stori fawr. Mi oedd yr achosion cyntaf yn Lloegr eisoes wedi eu cadarnhau ond dyma oedd yr achos tybiedig cyntaf yng Nghymru.
"O safbwynt y sioc a'r effaith ar gefn gwlad yn gyfan gwbl, mae'n hawdd anghofio pa mor ddychrynllyd oedd y cyfnod yna, a hefyd roedd o cyn dyddiau cyfryngau cymdeithasol.
"Dwi'n meddwl bod 'na ryw ofn mawr, nid yn unig o ran y diwydiant amaeth ond nath o effeithio ar lot mwy na hynny, dim jest ffermwyr oedd yn dioddef, ond oedd y busnesa' yng nghefn gwlad oedd yn dibynnu ar amaethyddiaeth. Ma' rywun yn cofio'r boen o siarad efo ffermwyr oedd wedi cael colledion.
"Yn ystod fy nghyfnod i o wyth mlynedd fel gohebydd materion gwledig, honno oedd y stori fwyaf yn ddi-os nath landio ar fy mhlât i bron yn syth a dyna am wn i nath rywun neud am saith, wyth mis yn ddi-dor, ag am sawl blwyddyn wedyn achos mi fuodd na dri ymchwiliad swyddogol i'r clwy er mwyn trio dysgu gwersi."
'Dwy ochr y ddadl'
Mae Nia bellach yn ohebydd achlysurol i raglen Ffermio ar S4C, ac mae'n edrych ymlaen at allu herio a gofyn y cwestiynau anodd.
"Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael y cyfle i fynd yn ôl i ohebu, doedd o ddim yn rwbath o'n i wedi meddwl amdana fo ond dwi yn meddwl fod y diwydiant amaeth yn rhan greiddiol o gefn gwlad, o safbwynt dyfodol y diwylliant a'r iaith Gymraeg," meddai.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod 'na raglen ar S4C sydd yn ymdrin â hynny a mi fydda i yn canolbwyntio yn fwy ar yr elfennau newyddiadurol.
"Wrth gwrs, mae'n bwysig hefyd bod rhywun yn rhoi dwy ochr y ddadl, a dwi'n meddwl rhan o 'ngwaith i gobeithio fydd gofyn y cwestiynau pigog, gofyn y cwestiyna falla 'di pobl ddim isio eu clywed bob amser."
Mae hi'n bwysig hefyd addysgu pobl sydd ddim o reidrwydd yn dod o gefndir amaethyddol yn ôl Nia.
"Ond dwi'n meddwl fod o'n ddyletswydd er mwyn i mi hefyd addysgu pobl sydd ddim o angenrhaid yn ffermwyr am yr heriau sy'n wynebu amaeth a chefn gwlad," meddai.
"Ma' hynny yn rhan o ddyletswydd unrhyw raglen i addysgu, i roi gwybodaeth ac i herio hefyd.
"Dwi wrth fy modd cael mynd allan i holi pobl, mae hi'n fraint a deud y gwir. Llais holi ydw i, genna fi ma'r gwaith hawdd mewn gwirionadd, y bobl ti'n holi, rhoi llais i'w barn nhw a'u teimlada nhw, dyna dwi'n meddwl sy'n bwysig."
'Dyled yn fawr'
Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn agos iawn at galon Nia hefyd, wedi iddi hi fod yn aelod o Glwb Rhosybol ers yn 17 oed, ac mae'n parhau i gadw cysylltiad agos hyd heddiw.
"Dwi'n meddwl bod o'n fudiad heb ei ail a ddim yn cael y gydnabyddiaeth deud y gwir y dyla fo yng nghefn gwlad," meddai.
"Mae fy nyled i yn fawr iawn i'r mudiad, o ran y cyfleoedd ges i, a ma rywun yn teimlo bod hi'n bwysig parhau i fod â chysylltiad gyda'r mudiad i neud yn siŵr fod pobl ifanc heddiw yn parhau i gael yr un cyfleoedd."