Newyddion S4C

Un o ddioddefwyr y pedoffeil John Owen yn ‘siomedig’ gyda ‘methiannau’ achos Neil Foden

Newyddion S4C 15/05/2024

Un o ddioddefwyr y pedoffeil John Owen yn ‘siomedig’ gyda ‘methiannau’ achos Neil Foden

Mae un o ddioddefwyr yr athro, dramodydd a pedoffeil John Owen wedi dweud ei fod yn "siomedig" gyda "methiannau" yn achos y prifathro Neil Foden.

Cafodd Neil Foden, cyn-brifathro ar Ysgol Friar's, Bangor ac Ysgol Dyffryn Nantlle, ei ganfod yn euog ddydd Mercher o 19 cyhuddiad o gam-drin pedwar o blant yn rhywiol.

Wrth grynhoi yn ystod achos Neil Foden, dyweddd y Barnwr Rhys Rowlands  ei bod yn "anhygoel fod Foden wedi gallu parhau i droseddu".

Ac wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Gareth Potter, yr unig un o ddioddefwyr John Owen sydd wedi siarad yn gyhoeddus am ei gam-driniaeth, y dylai Neil Foden, fel John Owen o'i flaen, fod wedi cael ei rwystro ynghynt.

Ugain mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad Clywch gan gomisiynydd plant cyntaf Cymru, Peter Clarke.

Fe gadarnhaodd yr adroddiad i John Owen, oedd yn athro drama ac yn awdur ar y nofelau oedd yn sail i'r gyfres deledu boblogaidd Pam fi Duw? gam-drin nifer ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen yn rhywiol dros sawl blwyddyn.

Un o amcanion yr adroddiad oedd argymell gwelliannau allai rwystro cam-drin plant yn y dyfodol.

Aeth Mr Owen byth o flaen ei well, gan ladd ei hun cyn yr achos llys yn ei erbyn.

Ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae Gareth Potter yn dweud ei fod yn gweld tebygrwydd rhwng y modd y gwnaeth John Owen a Neil Foden gam-drin plant.

"Mae 'na fethiannau wedi bod," meddai. "Yn amlwg. 

"Ma 'na bethau wedi digwydd yn y gorffennol gyda'r boi yma [Neil Foden], fel wnaeth ddigwydd gyda fy athro i [John Owen], cyn i ni fynd at yr heddlu. Ugain mlynedd ar ol iddo fe ddigwydd."

"[Mae'n] siomedig. Ar sawl lefel. Se fe di bod yn well os oedd rhai cynghorau, rhai ysgolion, yn acto yn fwy siarp ar bethau fel hyn."

Dywedodd Mr Potter bod pobl fel John Owen a Neil Foden yn "sbwylo bywydau pobl ifanc" a'i fod yn "gobeithio y geith e beth mae e'n haeddu. [Sef] beth bynnag mae'r gyfraith yn ei ddweud."

Image
Neil Foden
Neil Foden

'Fflagiau coch'

Roedd Helen Mary Jones yn Aelod Cynulliad pan gyhoeddwyd adroddiad Clywch. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio i elusennau plant a phobl ifanc.

Dywedodd hi ei bod hi'n grac bod Neil Foden wedi gallu cam-drin plant dros ugain mlynedd wedi marwolaeth John Owen.

"Rodd e'n amlwg yn yr ysgol yna, rodd na awyrgylch wenwynig, doedd pobl methu siarad mas," meddai. "Roedd 'na fflagiau coch yn bob man. 

"Ond eto, 'da ni'n ffindio ein hunain mewn sefyllfa lle, yn ein byd addysg ni, lle dylai ein plant ni deimlo yn saff, yn gyfforddus ac yn hapus, mae dyn pwerus wedi cam-ddefnyddio ei bwer, a does neb wedi camu lan i rwystro fe - ar wahan i'r rhai odd heb y pwer i wneud.

"Cafodd yr adroddiad [Clywch] ei gymryd o ddifrif. A ydy llywsdraeth Cymru wedi gweithredu yn llawn ar yr argymhellion? Dyna'r cwestiwn sydd angen ei ofyn.

"Dyna rywbeth allai'r Gweinidog wneud - gofyn y cwestiynau a mynd nol achos bod y patrwm mor debyg."

"Ydyn ni wedi gweithredu ac os ydyn ni wedi gweithredu, ydyn ni wedi gweithredu yn llawn?"

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ymchwiliad annibynnol yn dilyn troseddau rhyw Neil Foden.

“Bydd Adroddiad Ymarfer Plant yn cael ei gomisiynu gan y Bwrdd Rhanbarthol Diogel Plant pan fydd yr achos llys yn dod i ben," meddai llefarydd.

“Bydd yr adroddiad hwn, fydd wedi’i arwain gan ymchwilwyr annibynnol, yn ystyried cysylltiad asiantaethau priodol, yn adnabod dysg, ac yn gwneud argymhellion i wella dyfodol ymarfer diogelu plant.”

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.