Newyddion S4C

Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd 2024

15/05/2024
coron a chadair maldwyn.png

Mae Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2024, sydd yn cael ei chynnal ym Maldwyn eleni, wedi cael eu dadorchuddio.

Siôn Jones o Lanidloes sydd wedi cynllunio a chreu’r Gadair a'r gemweithydd Mari Eluned o Fallwyd sy'n gyfrifol am y Goron. 

Yn saer coed a bellach wedi sefydlu cwmni sy'n arbenigo mewn creu ceginau a dodrefn â llaw, dywedodd Sion ei bod yn fraint i gael cynllunio'r Gadair, a hynny gyda'r Eisteddfod yn ei filltir sgwâr. 

"Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu, yn fraint," meddai. 

"Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl a’r iaith at ei gilydd. Mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono."

Ardal yr Eisteddfod sydd wedi ysbrydoli'r cynllun ar gyfer y gadair, gydag Afon Hafren a Llyn Efyrnwy i'w gweld yn ogystal â map wedi ei gerfio gan grefftwr lleol, Chris Gethin, gydag ardal Meifod arni. 

Mae Sion yn hapus iawn gyda'r canlyniad, ac yn falch o fod wedi gallu defnyddio’r derw ac onnen leol sydd wedi bod yn ei weithdy ers sawl blwyddyn.

“Dwi wedi bod yn cadw’r pren lleol yma ar gyfer rhywbeth arbennig,” meddai. 

“Felly beth well na defnyddio'r rhain ar gyfer Cadair yr Eisteddfod leol?”

'Pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a'n hiaith'

A hithau wedi ei magu mewn cymuned amaethyddol, roedd cynnwys yr elfen yma yn hollbwysig yn nyluniad y Goron yn ôl ei chynllunydd, Mari Eluned. 

“Fy mwriad oedd creu coron ifanc ei naws sy’n cyfleu cyfraniad gwerthfawr yr Urdd a chymunedau amaethyddol, megis Maldwyn, a’u pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith,” esbonia Mari.

“Mae’r goron, a wnaed o arian, yn cynnwys cyfres o ŷd, triban yr Urdd wedi’i grefftio o lechen Gymreig, cerrig arian o’r afon Ddyfi, y geiriau ‘Mwynder Maldwyn’ ac ‘Urdd Gobaith Cymru’ gyda defnydd melfed euraidd i greu’r cap. Yn ei chyfanrwydd, mae’r goron yn cyfleu ffyniant, undod a gobaith.”

Ychwanegodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol, Urdd Gobaith Cymru: "Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd teilyngdod ymhen pythefnos er mwyn i bobl fwynhau campweithiau’r Gadair a’r Goron yma am flynyddoedd i ddod. 

"Diolch i’r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn sicrhau fod gan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 wobrau unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes cyfoethog yr ardal hyfryd yma o Gymru."

Fe fydd seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal ar ddydd Iau'r Eisteddfod, gyda'r Coroni ar y dydd Gwener.  



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.