Newyddion S4C

Rhieni yn galw am bedwaredd ysgol uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd

15/05/2024

Rhieni yn galw am bedwaredd ysgol uwchradd Cymraeg yng Nghaerdydd

1978, dyma agor Ysgol Glantaf yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd. Dilynodd Ysgol Plasmawr yn ardal y Tyllgoed ar ddiwedd y 1990au gyda'r ysgol ddiweddaraf, Bro Edern, sydd yn nwyrain Caerdydd yn agor ei drysau yn 2012.

Mae'r rhieni hyn yn dweud bod angen pedwaredd ysgol uwchradd bellach yn ne'r ddinas.

"Mae Grangetown a'r ardal gyfagos a de Caerdydd ymysg yr ardaloedd mwya difreintiedig gydag amrywiaeth cyfoethog arbennig yn ein cymuned.

"Mae'n hwyr glas bod y cyngor yn cynnig gweledigaeth i'r ardal sy'n gwneud addysg cyfrwng Cymraeg yn yr uwchradd yn opsiwn hawdd."

Daw'r alwad am ehangu addysg uwchradd yn sgîl sefydlu ysgol gynradd Hamadryad ym mis Medi 2016.

"One of the reasons for going to Hamadrayad was it's a green school. The fact everyone was encouraged to cycle or walk to school to limit the amount of cars around the school."

Yn gynharach eleni, daeth i'r amlwg nad yw bron i draean plant blwyddyn chwech Hamadryad wedi cael lle yn Ysgol Glantaf ar gyfer mis Medi.

"Dw i'n rhedeg Cylch Meithrin ac yn annog plant i gychwyn yn ddwy oed i gael yr iaith Gymraeg. Mae'n bwysig pam maen nhw'n tyfu'n hun ac am fynd i ysgol uwchradd bod 'na ddewis o ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal iddyn nhw."

Yn ogystal â bod yn rhiant i blentyn yn yr ardal mae'r Dr Gwenan Higham wedi gwneud gwaith ymchwil i agweddau cymunedau amlddiwylliannol at addysg Gymraeg.

"Mae angen sicrhau bod pob cyfle posibl gan y cymunedau 'ma heb greu rhwystrau amlwg iddyn nhw.

"Os 'dyn ni'n gwneud hynny fel blaenoriaeth bydd 'na dwf yn y rheiny o Gymru ethnig sy'n cael addysg Cymraeg. Mae hynny'n cyd-fynd a blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o ran miliwn o siaradwyr a chael Cymru amlddiwylliannol'n y dyfodol."

Mae'n dadlau byddai peidio sefydlu ysgol uwchradd yn y cylch yn golygu colli cyfle mawr.

"Efallai bydd nifer o bobl yn rhoi plant nhw yn ysgol Saesneg gan fod e'n fwy cyfleus.

"O ran fy niddordeb i yn y maes, Cymru ethnig gall golygu bod nifer o siaradwyr aml ethnig Cymraeg ar golled yn mynychu ysgolion Saesneg yn hytrach na chreu'r dilyniant a chreu cyfleoedd iddyn nhw fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus."

"Mae'r rhieni'n gobeithio bydd cyfarfod heno yn gam tuag ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y rhan hon o'r ddinas."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.