Y chwilio yn parhau am garcharor yn Ffrainc
15/05/2024
Mae heddlu Ffrainc yn parhau i chwilio am ddyn sydd wedi ffoi o fan tra roedd o ar y ffordd i’r carchar.
Cafodd dau o swyddogion carchar eu lladd yn Normandy pan blannodd car i mewn i’r fan yn fwriadol a thanio gynnau tuag at y swyddogion.
Cafodd dau o’r swyddogion eu saethu yn farw ac mae dau arall wedi eu hanafu.
Mae cannoedd o heddweision wrthi yn chwilio am Mohamed Amra.
Y gred yw bod ganddo gysylltiadau gyda gang cyffuriau yn Marseille.
Cafodd ei ganfod yn euog ar y degfed o Fai o ladrad ac roedd ar fin mynd gerbron y llys ar gyhuddiad o herwgipio wnaeth arwain at farwolaeth.
Llun: Wochit