Newyddion S4C

Menywod yn 'siomedig' gyda gofal canser gynaecolegol

15/05/2024
Claire Rowlands

Mae menywod ar hyd a lled Cymru wedi beirniadu’r llywodraeth wedi i’w pryderon am ganser gynaecolegol cael eu “diystyru” gan weithwyr yn y gwasanaeth iechyd.

Fe ddaw eu sylwadau yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

Roedd yr adroddiad hwnnw ym mis Rhagfyr y llynedd  yn nodi pryderon rhai menywod am eu gofal.

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod y “mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau'r GIG yn gyson.”

Ond mae’r sylwadau wedi synnu rhai o’r bobl a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor.

Maent yn dweud nad yw'r hyn mae'r llywodraeth wedi dweud yn adlewyrchu eu profiadau nhw.

Dywedodd Sioned Cash o Ynys Môn fod sylwadau Llywodraeth Cymru yn rhan o “naws” sydd yn “diystyru fod yna unrhyw broblemau o gwbl” gyda gofal canser gynaecolegol.

Fe fuodd farw ei mam, Judith Rowlands, yn fuan wedi iddi roi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fel rhan o’r adroddiad. 

Image
Judith Rowlands
Judith Rowlands (Senedd Cymru)

Mae Claire O'Shea, o Gaerdydd, sydd â Leiomyosarcoma y Groth, sef math o ganser prin hefyd yn amheus o sylwadau'r llywodraeth. 

“Fel claf, nid oes, ar unrhyw adeg unrhyw gwestiwn wedi cael ei ofyn i mi am fy moddhad â’r gwasanaethau a gefais,"meddai. 

Ychwanegodd ei bod yn “siomedig iawn gyda naws [yr ymateb] a’r diffyg ymrwymiadau pendant i unrhyw newid trawsnewidiol i fynd i’r afael â’r heriau a bodloni anghenion menywod yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.”

Galw am ymateb

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ar lawr y Senedd brynhawn dydd Mercher.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan ymhelaethu ar rai o’r ymatebion ac i ystyried adborth y menywod.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Russell George, sef Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ei fod yn gobeithio y bydd Ms Morgan yn “ystyried sylwadau’r menywod” ac yn “cynnig rhywfaint o sicrwydd i’r rhai a fu’n ddewr yn rhannu eu profiadau gyda ni.”

“Bob blwyddyn, mae oddeutu 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Mae tua 470 o bobl yn marw o ganserau gynaecolegol yng Nghymru bob blwyddyn, cyfradd uwch na chyfartaledd y DU,” meddai. 

Dywedodd fod yr ysgrifennydd iechyd wedi derbyn 24 o argymhellion gan y pwyllgor ond nad yw hi wedi “ymrwymo i ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol.”

Mae’r oedi i gyflawni cynllun penodol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, yn ogystal â’r gwaith i wella gwasanaethau wedi’r pandemig yn peri pryder iddo, meddai.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru am ymateb.

Prif lun o Claire O'Shea (Senedd Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.