Newyddion S4C

HSBC i leihau'r amser aros i gael galwad yn ôl yn y Gymraeg

17/05/2024
HSBC

Mae HSBC wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i leihau amser aros i gwsmer gael galwad yn ôl yn y Gymraeg.

Mewn llythyr at bwyllgor iaith y Senedd fe gadarnhaodd Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC, José Carvalho, y bydd yr amser yn cael ei leihau o dri diwrnod gwaith i un yn dilyn adolygiad o'r gwasanaeth.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod y gwasanaeth Cymraeg yn dal "ymhell o fod yn gyfartal" â'r Saesneg.

Daeth gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg HSBC i ben yn swyddogol ym mis Ionawr. 

Cyhoeddodd y banc ym mis Hydref y llynedd nad oedd y gwasanaeth iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn ddigonol bellach, gyda gostyngiad cyson yn y niferoedd sydd yn ei ddefnyddio.

Roedd galwadau i'r llinell iaith Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i'r brif ganolfan gyswllt, a hynny yn y Saesneg. 

Roedd cwsmeriaid a oedd eisiau sgwrs yn y Gymraeg yn gallu gwneud cais i gael galwad yn ôl ond roedd hyn yn cymryd hyd at dri diwrnod gwaith.

Dywedodd HSBC mewn datganiad ar 1 Mai: "Rydym yn lleihau'r amser aros hirach i gael galwad yn ôl o dri diwrnod gwaith i un diwrnod gwaith.

"Mae gennym ni bellach yr hyder i leihau'r amser yma drwy ein profiadau ni o'r chwarter cyntaf, a diwydrwydd ein cydweithwyr ni sy'n siarad Cymraeg.

"Byddwn yn ysgrifennu at ein holl gwsmeriaid yn eu cynghori o'r newid yma yn Gymraeg ac yn Saesneg."

'Rhan o'r broblem'

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai darpariaeth Gymraeg yn y banc "ymhell o fod yn gyfartal" â'r ddarpariaeth Saesneg. 

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith: "Dydy’r cyhoeddiad yma ddim yn golygu llawer o ddim byd, gan fod rhwystrau mewn lle o hyd, sy’n golygu bod gwasanaethau Cymraeg HSBC dal ymhell o fod yn gyfartal i’w gwasanaethau Saesneg. 

"Rydyn ni wir yn gobeithio nad yw HSBC yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn ddiolchgar am hyn. A dim ond rhan o’r broblem yw’r gwasanaeth ffôn, does dim gwasanaeth Cymraeg o gwbl ar-lein nac ar ap y banc, chwaith."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.