Newyddion S4C

Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur

14/05/2024
Dave Langford

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur ddydd Sadwrn.

Bu farw Dave Langford, 30 oed, mewn gwrthdrawiad ger Llanfair Talhaearn yn Sir Conwy ar 11 Mai ar ei ffordd adref at ei bartner Karla a’i ferch bedair oed Leela.

“Roedd Dave nid yn unig yn ddyn gwych; fe oedd hwyl y parti, yr un a allai droi gwg wyneb i waered gyda'i chwerthin heintus a'i natur ofalgar,” meddai’r deyrnged.

“Ei ferch oedd ei fyd, ac roedd y cariad oedd ganddo tuag ati ym mhob cwtsh a phob jôc wirion a oedden nhw’n ei rannu.

“Diolch am fod yn rhan o stori Dave, am gofleidio ei chwerthin, ei garedigrwydd, a'i gariad. 

“Gyda'n gilydd, byddwn yn cadw ei gof yn fyw yn ein calonnau, yn ddiolchgar am byth am yr amser oedden ni wedi ei gael gydag o.”

Cafodd y deyrnged ei chyhoeddi ar dudalen JustGiving i godi arian at ei angladd.

‘Cysylltu’

Roedd yr heddlu wedi apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol yn Sir Conwy ddydd Sadwrn.

Bu farw’r beiciwr modur yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan ddu Volkswagen ar ffordd yr A548 rhwng Llangernyw a Llanfair Talhaearn am tua 14:35 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes: “Yn anffodus rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd angheuol ac yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu.”

Ychwanegodd y llu fod teulu’r dyn yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol a bod y crwner wedi cael gwybod.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 24000430066.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.