Newyddion S4C

Dynes ifanc o Geredigion yn areithio trwy Iaith Arwyddion Prydeinig ym Mhalas Buckingham am y tro cyntaf

14/05/2024
Hafwen Clarke

Cafodd dynes ifanc fyddar o Aberystwyth y cyfle cyntaf erioed i areithio trwy Iaith Arwyddion Prydeinig ym Mhalas Buckingham yn ystod seremoni Aur Gwobr Dug Caeredin. 

Safodd Hafwen Clarke, sy'n 19 oed, o flaen cynulleidfa o 2,000 o bobl gan esbonio sut gwnaeth hi ei hun dderbyn y wobr Aur. 

Fel rhan o'i gwobr Aur, dysgodd Iaith Arwyddion Prydeinig i eraill dros gyfnod o flwyddyn i gwblhau yr adran wirfoddoli. 

Trwy wneud hynny, roedd Hafwen yn teimlo ei bod hi'n codi ymwybyddiaeth am Iaith Arwyddion Prydeinig.

'Yn gallu gwneud unrhyw beth'

Dywedodd ei bod eisiau dangos bod pobl fyddar yn gallu gwneud yr un pethau â phawb arall.

"Dwi'n browd iawn i fod yma i ddangos beth mae pobl fyddar yn gallu ei gyflawni," meddai.

"Mae pobl fyddar yn gallu gwneud unrhywbeth y gall pobl sy'n medru clywed ei wneud, oni bai am glywed. Rydym yn cyfathrebu mewn iaith wahanol, ond rydym ni yn dal i fedru cyfathrebu.

"Ar gyfer yr adran wirfoddoli o'r Wobr, penderfynais i ddysgu Iaith Arwyddion Prydeinig i eraill. 

"Dwi am godi ymwybyddiaeth o'r iaith, ac i annog pawb i ddysgu ychydig." 

Erbyn heddiw, mae Hafwen Clarke yn Llysgennad Dug Caeredig Cymru sydd yn lleisio barn pobl ifanc gyda anableddau. 

A hithau'n rhan o dîm Ambiwlans Sant Ioan, dywedodd fod gwobr Dug Caeredin wedi dangos iddi "nad yw ei byddardod yn ei hatal rhag cyflawni nod." 

'Hapus, balch a barod am unrhyw beth'

Dywedodd Ms Clarke wrth asiantaeth newyddion PA ei bod “methu dod o hyd i eiriau” wrth siarad â'r Tywysog Edward.

“Fe wnaeth Dug Caeredin ddangos i mi, os ydy pethau yn mynd yn anodd, ni ddyliwn i roi’r gorau iddi.

"Diolch i Ddug Caeredin am wneud i mi deimlo’n hapus, yn falch ac yn barod am unrhyw beth.”

Image
Hafwen Clarke, Tim Peake a Dug Caeredin
Hafwen Clarke, Tim Peake a Dug Caeredin. Llun: PA

Yn ystod y seremoni dywedodd Dug Caeredin ei fod yn "gobeithio fod y profiad o gwblhau'r wobr yn brofiad da."

Soniodd hefyd am ei brofiad personol trwy ddweud fod y teimlad wrth gyflawni'r wobr yn "deimlad sydd yn eich dilyn am weddill eich bywyd."

Prif Lun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.