Apêl o’r newydd wedi marwolaeth ‘heb esboniad’ menyw yng ngorllewin Cymru
14/05/2024
Mae’r heddlu wedi gwneud apêl o’r newydd am wybodaeth wedi marwolaeth “heb esboniad’ menyw 32 oed.
Cafodd corff Sian Batchelor ei ddarganfod ar draeth ger Pennar, Doc Penfro ddydd Mawrth, 20 Ebrill.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd ei marwolaeth yn un oedd ag esboniad a does neb wedi ei arestio hyd yma.
Hoffai’r heddlu glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth, oedd wedi gweld Sian neu wedi cael unrhyw gyswllt â hi rhwng dydd Iau 25ain a dydd Mawrth 30ain o Ebrill.
Gellir cysylltu â Heddlu Dyfed-Powys naill ai ar-lein, drwy e-bostio, neu drwy ffonio 101.