Newyddion S4C

Cau 'canolbwynt celfyddydol' eiconig y Redhouse yn siomi cymuned Merthyr Tudful

ITV Cymru 14/05/2024
Redhouse / Neuadd y dref Merthyr

Mae gwrthwynebiad yn lleol wedi'r cyhoeddiad y bydd canolfan diwylliannol eiconig yn Merthyr Tudful yn cau.

Mae’r Redhouse wedi bod yn neuadd y dref, siambr cyngor a llys ynadon dros y can mlynedd diwethaf, cyn ailddatblygiad gwerth £8 miliwn gydag arian Ewropeaidd i’w throi'n ganolfan gelfyddydol yn 2014.

Fodd bynnag, dros y penwythnos, mae’r lleoliad wedi cau ar ôl cymhlethdeodau wrth drosglwyddo'r eiddo i ddwylo perchnogion newydd.

Roedd Emma Bush, mam i fachgen sydd fel arfer yn cael gwersi offerynnol yn yr adeilad, yn y niwl am y ffaith bod yr adeilad wedi cau.

“Mae'n rhwystredig iawn a dwi’n teimlo'n eithaf pryderus, oherwydd mae gan fy mab ddyddiad cau cerddoriaeth yfory," meddai.

"Mae angen yr offer technegol sydd y tu mewn [i’r adeilad], er mwyn gorffen y prosiect hwnnw a'i farcio... ac eto, dyw e ddim yn gwybod beth sy'n digwydd.

"Nid y myfyrwyr yn unig sydd wedi cael eu siomi, mae'r dref gyfan â dweud y gwir, oherwydd mae'n lleoliad dwi’n mynd iddo am sawl perfformiad blynyddol yn y theatr. 

"Mae bandiau ymlaen trwy’r amser... felly mae'n ganolbwynt celfyddydol i'r gymuned ac ry’n ni’n colli cyfleuster arall yn y dref."

'Sefyllfa enbyd'

Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful sy'n cynnal y gwasanaethau yn Redhouse ond mae'r adeilad yn eiddo i Gymdeithas Tai Merthyr Tudful (CTMT).

Roedd yr ymddiriedolaeth wedi bod yn cynnal trafodaethau i drosglwyddo'r busnes i'r gymdeithas dai ond, dywedodd CTMT nad oedden nhw bellach yn gallu bwrw ymlaen â'r trosglwyddo gan y byddai'n peryglu’r cynaliadwyedd ariannol.

Mae cymhlethdodau'r cytundeb yn debyg i'r rhai oedd wedi wynebu Canolfan Gymunedol Aberfan, gafodd ei harbed yn ddiweddar rhag cau ar yr unfed awr ar ddeg.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Merthyr Tudful, Geraint Thomas: “Yn anffodus, bu’n rhaid i’r coleg symud eu myfyrwyr allan o’r Redhouse a bydd yn rhaid iddyn gynnal eu harholiadau mewn adeilad gwahanol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf nes bod penderfyniad wedi bod.

"Mae'n sefyllfa mor enbyd, dwi'n meddwl y dylen ni gael ymchwiliad cyhoeddus i'r ymddiriedolaeth hamdden gyfan.

"Byddwn yn cefnogi Cymdeithas Tai Merthyr Tudful i gael ateb, a dyfodol i'r adeilad, tra'u bod mewn sgyrsiau gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful. 

"Nid yw'n adeilad eiconig i Ferthyr Tudful yn unig. Mae'n adeilad eiconig i Gymru. Dyma galon ein tref."

Dywedodd Dawn Bowden, cynrychiolydd yr etholaeth yn Senedd Cymru, ei bod wedi ysgrifennu at CTMT i weld "beth yw'r cynlluniau ar gyfer y Redhouse yn y dyfodol."

Dywedodd: "Rwy'n mawr obeithio y gall y Redhouse barhau ar agor er budd y dref a'r staff sy'n gweithio yno, a bod modd datrys y materion wnaeth arwain at y cau."

Llun: Geograph 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.