Newyddion S4C

Teyrngedau i'r cyn-AC a chyd-sylfaenydd Clwb Ifor Bach, Owen John Thomas

14/05/2024

Teyrngedau i'r cyn-AC a chyd-sylfaenydd Clwb Ifor Bach, Owen John Thomas

Mae’r cyn Aelod o’r Cynulliad dros Blaid Cymru ac un o sylfaenwyr Clwb Ifor Bach, Owen John Thomas, wedi marw yn 84 oed.

Mewn neges, dywedodd ei fab, yr Aelod o Senedd Cymru Rhys ab Owen: "Yn heddychlon, buodd Dad farw bore ’ma. Er y salwch hir ers dros ddegawd, does dim yn paratoi at golli rhiant. Heddiw rwy’n hiraethu ac yn gweld eisiau fy nhad.

"Roedd yn berson angerddol dros Gaerdydd, Cymru a’r Gymraeg. Dim lot sy’n siarad Cymraeg gydag acen Caerdydd!

"Yn ymgyrchydd dros addysg cyfrwng Cymraeg, yn sylfaenydd Clwb Ifor Bach ac yn arbenigwr ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd.

"Mae wedi cyfrannu at sicrhau bod Caerdydd tipyn Cymreicach nawr na pan anwyd ef yn 1939. 

"Wrth gofnodi 25 mlynedd o’r Senedd, mae’n werth nodi i Dad drefnu canfasio ffôn a gysylltodd gyda 45 mil o bobl yn ystod refferendwm 1997.

"Gyda mwyafrif o 6,721 roedd ei waith yn allweddol. Roedd hefyd yn ddyn o ffydd ac mae nawr yn rhydd o afiechyd creulon."

Roedd yn aelod Plaid Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 1999 a 2007.

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Wigley "o'dd ei frwdfrydedd o yn gafael yno chi."

Roedd wedi cael diagnosis o ddementia yn 2013 ac wedi anghofio sut i siarad Cymraeg.

Roedd hynny yn “drist iawn” meddai ei fab. Roedd wedi dysgu’r iaith yn oedolyn ac wedi ymgyrchu dros ei pharhad yn y brifddinas.

Dywedodd ei fab Hywel Thomas ei fod yn "caru Cymru, ei phobl, ei hiaith a'i diwylliant gydag angerdd".

"Cafodd ei ysgogi gan yr awydd i weld Cymru'n cael ei rhyddhau o gyfyngiadau San Steffan ac i bennu ei materion ei hun," meddai.

"Byddai’r rhai mewn pŵer yn diystyru pobl fel fy nhad fel cynhyrfwyr trafferthus.

"Ond ar ddiwedd y dydd y cyfan a ddymunai erioed i’w wlad oedd tegwch a’r pwerau i godi pobl Cymru allan o dlodi a rhoi cyfle iddynt am ddyfodol gwell.

"Araf oedd y cynnydd, llythyr ar ôl llythyr, modfedd wrth fodfedd ond daliodd ati ac ni roddodd y gorau iddi."

Wrth roi teyrnged i Owen John Thomas, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn cael ei gofio fel "ymgyrchydd brwd a lladmerydd di-flino dros Y Gymraeg a Chymreictod yng Nghaerdydd."

"Gwnaeth gyfraniad sylweddol nid yn unig i’w gymuned ond i Blaid Cymru hefyd.

 "O ymgyrchu dros hawliau pensiynwyr Allied Steel and Wire ac Addysg Gymraeg yn y brifddinas i chwarae rhan yn llunio strategaeth Plaid Cymru wedi refferendwm 1979 - gwnaeth gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol."

Gydag Owen John Thomas yn un o sylfaenwyr Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, mae'r ganolfan wedi cyhoeddi datganiad: "Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Owen John Thomas, un o sylfaenwyr Clwb Ifor Bach a chyn-Aelod Cynulliad. 

"Bydd angerdd Owen dros Gaerdydd, Cymru a'r iaith Gymraeg yn aros yn hir yn ein cof. 

Rydym yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu ar yr adeg anodd yma." 

Llun gan Y Lolfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.