Newyddion S4C

Troedio llwybr anodd: Milwyr Prydain yng Ngwlad Pwyl

Newyddion S4C 14/05/2024
Milwyr Prydain yng Ngwlad Pwyl

Efo tensiynau yn Ewrop ar eu hanterth mae Prif Ohebydd Newyddion S4C newydd ddychwelyd o Wlad Pwyl.  Roedd Gwyn Loader yno gyda'r fyddin er mwyn arsylwi ar ymarfer milwrol NATO. Dyma ei argraffiadau o'r hyn a welodd.

Mewn coedwig drwchus ym mherfeddion Gwlad Pwyl, daw’r bws mini bach glas i stop. 

Rwy’i a chriw bach o newyddiadurwyr Cymreig wedi teithio yma i gwrdd â’r milwyr o Gymru sydd yn rhan o ymarferion milwrol mwyaf NATO yn Ewrop ers pedwar degawd. 

Yn y gwersyll diarffordd, mae rhyw 600 o gatrawd y Cymry Brenhinol yn hyfforddi. Mae dros 2,500 o filwyr yma i gyd, gyda byddinoedd Gwlad Pwyl a’r Unol Daleithiau hefyd yn rhan o’r ymarferion. 

Cawn ein tywys o’n bws mini i ganol y coed lle mae criw o filwyr wrth gefn yn paratoi i ymosod ar safle ychydig gannoedd o lathenni o’u blaenau. 

Mae sŵn y saethu, y symud sydyn a’r gweiddi croch yn ymdebygu i frwydr go iawn. 

Ond bwledi gwag, nid rhai byw, sydd yn cael eu tanio. 

Paratoadau yn 'mynd yn dda'

Wedi ymosodiad ‘llwyddiannus’, ry’n ni’n cael cyfle i siarad â rhai o’r dynion (a dynion ydyn nhw i gyd fan hyn) - sydd, wrth eu gwaith bob dydd yn gyfreithiwr, yn warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn beiriannydd yng ngorsaf niwclear Trawsfynydd.

Cyn cael siarad â fi, mae un o’r swyddogion sy’n ein tywys yn rhoi ‘briff’ bach iddyn nhw – tu hwnt i fy nghlyw i.

Erbyn dechrau ffilmio, digon tebyg yw atebion y tri. Mae’r paratoadau yn “mynd yn dda”, maen nhw’n “dysgu lot” ac yn cael “hyfforddiant gwych”.

Wrth i fi droi fy ffocws at yr hyn sydd yn digwydd yn y wlad sydd yn ffinio a ni i’r dwyrain (Wcráin) mae eu hawydd i siarad yn pylu. Tu cefn i fi, mae’r swyddogion yn camu’n agosach – eu hanadl ar fy ngwar a’u llygaid yn llosgi twll yn fy nghefn. Patrwm sydd am barhau yn ystod fy nghyfnod yma.

Image
Ffiwsilwr Peredur Jones
Mae'r ffiwsilwr Peredur Jones yn filwr wrth gefn gyda chatrawd y Cymry Brenhinol 

Exercise Immediate Response yw rhan y milwyr Cymreig yn yr ymarfer – y bwriad yw profi sut y bydden nhw’n cydweithio a’u cynghreiriaid i ymateb yn gyflym petai unrhyw fygythiad i aelod NATO yn Ewrop.

Rhan yw hwn o ymarferion ehangach ar draws dwyrain Ewrop-ac mae 40,000 o filwyr i gyd yn cyfrannu.

Rhyfel Wcráin

Mae Prif Swyddog y Cymry Brenhinol yn barod o leiaf i gydnabod y cyd-destun. “Fyddai hi ddim yn iawn ohona’i i ddweud nad yw’r ymarferion yma yn digwydd yng nghyd-destun rhyfel Wcráin” meddai Ed Willcox, cyn gwadu mai dyma’r prif reswm dros yr ymarfer.

“Dwi’n credu mai pwrpas yr ymarfer, fel mae NATO wedi ei wneud erioed, yw defnyddio ymarferion caled i arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol.”

Ond pam cynnal yr ymarferion mwyaf gan NATO mewn deugain mlynedd nawr? A fan hyn? Dyw’r ateb ddim yn glir.

Ymlaen a ni wedyn i weld rhai o’r 800 o gerbydau sydd wedi cael eu cludo i wlad Pwyl dros dir ac môr – testun balchder mawr i’r fyddin. Dwi’n cael cynnig mynd am sbin yn un o gerbydau arfog Warrior y milwyr. Mae sawl un o’r newyddiadurwyr sydd gyda fi yn achub ar y cyfle. Er gwaethaf anogaeth y swyddogion, dwi’n gwrthod y gwahoddiad.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg eraill y Cymry Brenhinol yng Ngwlad Pwyl, dwi’n cwrdd â Terry Francis. O Fynytho yn wreiddiol ond bellach yn byw yn sir Benfro, mae’r Uwch-Sarjant yn barod i gynnig atebion plaen i fy holl gwestiynau.

Image
Uwch-sarjant Terry Francis
Mae'r Uwch-Sarjant Terry Francis yn dweud bod ymarferion NATO yn 'bwysig uffernol'

“Dio’m yn secret pam bod ni yma” meddai e wrtha’i “ac mae’n bwysig uffernol”. Ond wrth holi a fyddai e a’i gyd-filwyr yn barod i ymateb petai Putin a Rwsia yn ymosod ar un o wledydd Nato, mae’r ateb yn un cadarn: “Maen nhw yn gallu gweld pam ddylen nhw ddim bygwth a pam ddylia nhw ddim gwneud pethau.”

Mae’r swyddogion wedi cael llond bol erbyn hyn – bydd dim rhagor o gwestiynau am Rwsia na Putin.

I’r dwyrain, tra ‘mod i yng ngwlad Pwyl, mae Vladimir Putin yn cael ei dderbyn ar gyfer pumed tymor yn arlywydd Rwsia. Mewn araith, mae’n dweud bod gwledydd y gorllewin yn “bygwth ffordd fyw pobl Rwsia”, cyn datgan y bydd Rwsia “yn ennill”. Yn Llundain, mae’r Ysgrifennydd Tramor, yr Arglwydd Cameron yn dweud bod angen “polisi tramor caletach” gan alw ar wledydd NATO i gynyddu gwariant ar amddiffyn.

Rethreg Putin

Ddwy flynedd yn ôl, ro’n i yn ninas Kharkiv – yn tystio i ddinas ar y dibyn. Roedd yr Wcraniaid wedi gwthio’r gelyn mas o’r ddinas, ond roedd taflegrau yn dal i daro yn aml.

Er bod mwyafrif y bobl leol wedi ffoi, roedd rhai wedi aros – yn benderfynol o barhau a’u bywydau yng nghanol dinistr rhyfel. Fisoedd wedi i fi adael, fe gipiodd byddin Wcráin dalp mawr o dir yn y gogledd ddwyrain yn ôl. Dyma’u buddugoliaeth fwyaf o ran cipio tir ers ymosodiad y Rwsiaid yn Chwefror 2022. 

Gyda llygaid y byd ar Israel a Gaza dros y misoedd diwethaf, dyw diffyg arfau a blinder milwyr Wcráin heb gael y sylw rhyngwladol enfawr gwelwyd dwy flynedd yn ôl.

Image
Gohebydd Newyddion S4C, Gwyn Loader, yn Kharkiv
Prif Ohebydd Newyddion S4C, Gwyn Loader, yn ninas Kharkiv yn 2022

A dros y dyddiau diwethaf, mae’r Rwsiaid yn ymosod, ac yn agosáu unwaith eto at ddinas Kharkiv.

Yng Ngwlad Pwyl, mae’r fyddin Brydeinig yn ceisio troedio llwybr anodd – rhwng dangos eu cryfder honedig i’r byd ar un llaw, a pheidio pryfocio Rwsia ar y llaw arall.

Tu fas i Moscow, dim ond dyfalu all unrhyw un wneud ynghylch amcanion Vladimir Putin.

Ond wrth i rethreg Putin boethi a gyda’r rhyfel yn Wcráin yn parhau yn boeth, mae cynnal ymarferion milwrol mwyaf NATO yn Ewrop ers diwedd y rhyfel oer yn adrodd ei stori ei hun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.