Newyddion S4C

Protestwyr Israel yn rhwystro tryciau gyda chymorth dyngarol rhag cyrraedd Gaza

14/05/2024
A worker clears spilled goods away from damaged trailer trucks that were carrying humanitarian aid supplies on the Israeli side of the Tarqumiyah crossing with the occupied West Bank on May 13

Mae protestwyr o Israel wedi rhwystro tryciau gyda chymorth dyngarol rhag cyrraedd Gaza ddydd Llun. 

Fe wnaeth y protestwyr ymosod ar y lorïau yn ninas Tarqumiya i'r gorllewin o Hebron yn y Lan Orllewinol sydd o dan feddiant Israel.

Roedd y cymorth yn dod o Wlad yr Iorddonen ac yn mynd i Gaza, lle mae degau o filoedd o Balesteiniaid yn wynebu prinder bwyd.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi condemnio’r ymosodiad, gan ei ddisgrifio fel “dicter llwyr”.

Yn ôl adroddiadau yng nghyfryngau Israel, y grŵp Tzav 9 oedd yn gyfrifol am drefnu’r brotest.

Mae'r adroddiadau yn disgrifio'r grŵp fel un asgell dde sy'n ceisio atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd Gaza tra bod gwystlon o Israel yn parhau yno.

Roedd lluniau sydd heb eu gwirio yn dangos protestwyr yn cymryd pecynnau bwyd oddi ar y lorïau ac yn eu gollwng i'r llawr, gan yna sathru arnynt.

Yn ddiweddarach, roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel petai'n dangos cerbydau'n cael eu rhoi ar dân.

Dywedodd un protestiwr wrth asiantaeth newyddion AFP ei bod yn Tarqumiya ddydd Llun oherwydd iddi glywed bod tryciau cymorth dyngarol ar “eu ffordd i ddwylo Hamas, sy’n ceisio lladd milwyr eraill a dinasyddion eraill Israel”.

Dywedodd Hana Giat, 33, “na ddylai unrhyw fwyd fynd i mewn i Gaza” nes bod gwystlon Israel yn cael eu dychwelyd yn “iach ac yn fyw”.

Mewn datganiad a gafodd ei ddyfynnu gan y papur newydd Jerusalem Post, fe gondemniodd Tzav 9 rai o weithredoedd y protestwyr.

Fe ddywedon nhw fod “gweithredoedd wedi’u cyflawni heddiw nad ydynt yn unol â gwerthoedd ein mudiad”.

Ond ychwanegodd y llefarydd fod “blocio’r tryciau yn gam effeithiol ac ymarferol".

Cafodd pedwar protestiwr, gan gynnwys plentyn dan oed, eu harestio yn y brotest, yn ôl datganiad gan eu cyfreithwyr.

'Annerbyniol'

Dywedodd cynghorydd diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Jake Sullivan, fod ymddygiad y protestwyr yn “gwbl annerbyniol”.

Ychwanegodd bod y Tŷ Gwyn wedi codi ei bryderon gyda “lefel uchaf llywodraeth Israel”.

Mae’r sefyllfa ddyngarol yn Gaza yn destun pryder mawr ymhlith llawer yn y gymuned ryngwladol.

Mae Rhaglen Fwyd y Byd y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod Palesteiniaid yng ngogledd Gaza yn profi “newyn llwyr”. 

Tra yn y de, lle mae'r rhan fwyaf o Balesteiniaid wedi ceisio lloches, mae'r sefyllfa ddyngarol yn gwaethygu.

Mae Israel wedi honni ers tro ei bod wedi ymrwymo i hwyluso'r broses o ddosbarthu cymorth dyngarol i mewn i Gaza.

Maent hefyd wedi cyhuddo Hamas o ddwyn y cymorth sydd ar gyfer sifiliaid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.