Newyddion S4C

Cyfnod pryderus i staff a myfyrwyr prifysgolion ledled Cymru yn sgil toriadau

13/05/2024

Cyfnod pryderus i staff a myfyrwyr prifysgolion ledled Cymru yn sgil toriadau

Aberystwyth yw cartref prifysgol gyntaf Cymru, gafodd ei sefydlu gyda chyfraniadau gan bobl gyffredin.

Mae'r sefydliad sy'n cyflogi 2,000 o bobl mewn trafferth ariannol oherwydd cynnydd mewn costau ond incwm o ffioedd dysgu sy heb godi ers 2012.

Mae angen i Brifysgol Aberystwyth wneud arbedion o £15 miliwn. Fe allai hynny olygu colli rhwng 150 a 200 o bobl o'r gweithlu. Un ffactor sy wedi bod yn ergyd i incwm y sefydliad yw'r cwymp yn nifer y myfyrwyr o dramor sy'n talu ffioedd dysgu llawer uwch na myfyrwyr o Brydain.

Dair blynedd yn ôl, fe wnaeth astudiaeth ddangos bod economi Ceredigion bron i £80 miliwn ar ei hennill oherwydd myfyrwyr rhyngwladol. Mae toriadau yn y brifysgol yn anochel yn mynd i effeithio ar fusnesau lleol.

"Mae 40% o 'musnes i yn flynyddol yng nghlwm a'r brifysgol. Mae pobl yn dod i wneud cyrsiau a phobl yn ymweld ag adrannau ac academics yn dod i wneud vivas ac arholiadau. Mae hynny'n bwysig i'r dref ac mae'n ofid mawr i fi'n bersonol."

"Ni'n tueddu cael Mam a Dad yn dod i ymweld â'r plant ac aros yn lleol. Maen nhw'n aros yn gwestai lleol a bwyta mewn bwytai lleol. Maen nhw'n swyddi o safon hefyd a dyna beth sy'n poeni ni. Sut fydd y bobl hyn yn gallu cael swyddi eraill yn lleol?

"Ydyn nhw'n gorfod symud allan o'r ardal?"

"Mae'r impact ar dre Aberystwyth ac ardal fel Ceredigion yn sylweddol. Mae'r brifysgol yn hynod o bwysig yn economaidd i strwythur economaidd y sir. Fe fydd yna impact ar y siopau a'r busnesau yn y dref a'r gymuned yn gyfan."

Daw'r arbedion hyn chwe blynedd ar ôl cyfnod arall o ailstrwythuro. Roedd gostyngiad o 15% yn y gweithlu yn ôl undeb y darlithwyr sy'n amau bydd gwneud yr arbedion y tro hwn o ddiswyddo gwirfoddol.

"I think the situation is very severe. Both sides are anxious not to have compulsory redundancies given the scale of the problem and the amount that has to be saved.

"It's difficult to see that the voluntary severance will recoup it. Compulsory redundancies probably will happen."

Dyw Aberystwyth ddim ar ei phen ei hun. Y mis diwethaf, clywon fod Prifysgol Abertawe yn torri 200 o swyddi. Mae Prifysgol Met Caerdydd wedi agor cynllun diswyddo gwirfoddol.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae diffyg o £35 miliwn yn ei chyllideb eleni a bydd y diffyg yn sylweddol uwch y flwyddyn nesaf.

"Mae prifysgolion Cymru wedi bod ar ymyl y dibyn ers rhai blynyddoedd. Yn sydyn, maen nhw i gyd yn llithro dros yr ymyl. Mae 'na doriadau sylweddol yn mynd i ddigwydd ym mhob un o brifysgolion Cymru."

Nôl yn Aberystwyth, mae myfyrwyr yn poeni. Mae'n amser pryderus ar ôl cyfnod positif pan lansiwyd cyrsiau newydd yn cynnwys milfeddygaeth a nyrsio.

"Yn sicr, efo'r pynciau newydd ac adnewyddu Pantycelyn mae 'na lot o gyffro yn y blynyddoedd diwethaf o ran cyrsiau yn Aberystwyth. Dw i'n meddwl bod ni'n gweld dylanwad yr argyfwng costau byw ar y myfyrwyr ac ar y sefydliad ei hun."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar brifysgolion a'i bod mewn cysylltiad rheolaidd gydag arweinwyr y sector.

Serch hynny, mae'n gyfnod pryderus i staff a myfyrwyr ar gampysau ledled Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.