
'Gwaddol' Glanaethwy yn destun balchder i Cefin Roberts
'Gwaddol' Glanaethwy yn destun balchder i Cefin Roberts
Mae'r arweinydd côr Cefin Roberts yn dweud ei fod yn falch o weld “gwaddol” Ysgol Glanaethwy, wrth weld aelodau a chyn aelodau yn datblygu mewn amrywiol feysydd perfformio.
Ac mae'n pwysleisio bod "y ffatri yn dal i fynd" yng Nglanaethwy.
Roedd y côr yn cystadlu yn rownd derfynol y gyfres Côr Cymru ar S4C nos Sul, gan berfformio pedair cân.
Côr Ifor Bach o Gaerdydd oedd yn fuddugol ar y noson, gan ennill y tlws Côr Cymru a gwobr ariannol o £4,000.
Ond cyn coroni’r enillwyr, fe gafodd y wobr ar gyfer Arweinydd y gyfres ei chyflwyno i Cefin Roberts, arweinydd Ysgol Glanaethwy.
Yn perfformio gyda’r thema ‘Dewch i’r Coed’, roedd aelodau’r côr yn gwisgo gwisgoedd gyda dail amryliw, gyda cholur disglair, tra eu bod yn dawnsio a chreu rhythmau newydd, wrth ganu pedair cân yn ddigyfeiliant.
Yn eu harwain o’r blaen yn yr un math o wisg a gliter ar ei ben a’i locsyn, roedd yr arweinydd ei hun, Cefin Roberts.

Fe wnaeth y beirniad Greg Beardsell ei ddisgrifio fel arweinydd “chwyldroadol”, tra dywedodd Grant Llywelyn y byddai ef ei hun yn mwynhau canu yn y côr.
Dywedodd Cefin Roberts: “Mi oedd cael clywed y beirniad yn dyfarnu’r wobr am arweinydd y corau i mi, nid yn unig yn golygu llawer iawn yn cael y wobr ei hun, ond yr hyn dd’udodd nhw.
“Dwi’n meddwl fod y geiriau yna yn bwysicach wobr i’w chael bob amser nac unrhyw dlws, pan mae beirniaid rhyngwladol neu rhai Cymreig, yn cydnabod eich gwaith chi ac yn dweud pethau mor hynod o dwymgalon.
“Mae’n gwneud i rywun deimlo’n dda ac yn rhoi hwb i’r dyfodol i rywun i gario ymlaen, achos di Rhian [Roberts, cyd-arweinydd Ysgol Glanaethwy] a finnau ddim yn mynd yn fengach, ond rywsut, mae’r plant a phobl ifanc yn rhoi ieuenctid yn ôl i chi yn aml iawn pan maen nhw’n canu hefo chi ac i chi.
“Mi oedd o’n braf clywed y beirniaid yn dweud pethau fel ‘revolutionary’ ac un yn dweud fysa fo’n licio canu yn fy nghôr i – oedd hynny ei hun yn bresant i ddweud y gwir ac mae croeso iddo fo wneud.”
'Ffatri dal i fynd'
Wedi 30 mlynedd ers sefydlu’r Ysgol, mae Cefin Roberts yn dweud fod yr awch dal ganddo i “wthio’r ffiniau” fel cyfarwyddwr.
Dywedodd: “Roedd y dynfa i hyfforddi yn gryf yn Rhian a finnau o’r dechrau felly dyna pam wnaethon ni greu’r weledigaeth yma. Da ni wedi adeiladau’r ysgol yma o ben a pastwn ein hunain. Chaethon ni ddim grant o nunlla a da ni’n dibynnu ar ein gwersi a’r arian a’r incwm ‘da ni’n wneud o’r gwersi.
"Ond dwi’n falch i ddweud hefyd fod y drysau yn agored yn rhad ac am ddim i unrhyw blentyn sydd yn dod o gefndir difreintiedig.
“Ryw awydd sydd yna i, yn enwedig y pen yma i fywyd – dwi ddim yn gwybod pa ben di hwnna achos dwi dal i roi glitter yn fy locsyn felly dwi ddim yn siŵr pa oedran ydw i y tu mewn llu – ond ar y pwynt yma o fywyd, dwi’n meddwl mai just yn trio rhannu hynny fedrai o be s’gen i i roi ydw i rŵan.
“Mae hynny yn beth mor galonogol i weld, mae nifer o’n cyn-disgyblion rŵan yn cychwyn corau eu hunain, yn arwain corau, yn ennill Cân i Gymru yn gyfansoddwyr, ar y West End, ar S4C, maen nhw ar hyd y lle i gyd a mae hwnna’n destun balchder i ni a bod 'na waddol 'di bod i’r gwaith mae Glanaethwy wedi wneud. Ond mae’r ffatri dal i fynd.
“Mae di bod yma ers dros 30 mlynedd bellach a dwi'n disgwyl y criw oedd yn perfformio nos Sul i ddod mewn heno i ymarfer am Llangollen o fewn yr awr nesaf! Dyna fydd y wers nesaf, a wedyn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.”