
Dileu euogfarn dyn gafodd ei garcharu am 38 mlynedd am lofruddio dynes
Mae euogfarn dyn sydd wedi treulio 38 mlynedd yn y carchar am lofruddio dynes yn 1986 wedi cael ei dileu yn y Llys Apêl.
Cafwyd Peter Sullivan yn euog o lofruddio Diane Sindall, 21, ym Mhenbedw, Glannau Mersi ym mis Awst 1986.
Cafodd Mr Sullivan, oedd yn 30 oed ar y pryd, ei arestio'r mis canlynol a'i gael yn euog o'r drosedd ym mis Tachwedd 1987.
Er iddo gael ei ddedfrydu i isafswm o 16 mlynedd o garchar, mae Mr Sullivan wedi parhau dan glo am bron i 40 mlynedd.
Ac yntau bellach yn 68 oed, y gred yw ei fod wedi dioddef y camweinyddu cyfiawnder hiraf yn hanes troseddol Prydain.
Newid euogfarn
Fe wnaeth Mr Sullivan geisio newid ei euogfarn gyntaf yn 2008.
Ond fe wnaeth y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wrthod cyfeirio’r achos i’r Llys Apêl.
Gofynnodd am ganiatâd i apelio’n uniongyrchol heb y comisiwn yn 2019, ond cafodd hyn ei wrthod gan y Llys Apêl yn 2021.
Bryd hynny, daeth y comisiwn i'r casgliad nad oedd samplau DNA o’r lleoliad yn cyfateb i rai Mr Sullivan.
Mewn gwrandawiad ddydd Mawrth, dywedodd cyfreithwyr Mr Sullivan wrth y Llys Apêl yn Llundain fod y dystiolaeth newydd yn dangos "nad y diffynnydd" oedd yn gyfrifol am lofruddio Ms Sindall.

Dywedodd bargyfreithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth y llys nad oedd "sail gredadwy i wrthwynebu’r apêl" yn ymwneud â’r dystiolaeth DNA.
Wrth ddileu’r euogfarn, dywedodd yr Arglwydd Ustus Holroyde, oedd yn eistedd gyda Mr Ustus Goss a Mr Ustus Bryan bod ganddyn nhw "ddim amheuaeth ei bod hi’n angenrheidiol ac yn fuddiol er budd cyfiawnder" i dderbyn y dystiolaeth DNA newydd.
Fe wnaeth Mr Sullivan ymddangos yn y gwrandawiad dros gyswllt fideo o garchar HMP Wakefield.
Roedd yn crio ac yn dal ei law dros ei geg wrth iddo gael gwybod y byddai'n cael ei ryddhau.
Mewn datganiad gafodd ei ddarllen gan ei gyfreithiwr, dywedodd Mr Sullivan ei fod "anghywir iawn" iddo gael ei garcharu ar gam.
Ond dywedodd ei fod "ddim yn ddig, dydw i ddim yn chwerw".