Newyddion S4C

Llandudno: Adroddiadau am gorff yn y môr wrth chwilio am fachgen coll

Llandudno

Mae chwilio pellach yn cael ei gynnal gan y gwasanaethau brys ger Llandudno nos Fawrth, ar ôl i gorff posib gael ei weld yn y môr ychydig wedi 19:00. 

Daeth y datblygiad wrth i'r awdurdodau chwilio o'r awyr am y bachgen ifanc Athrun, 16 oed, sydd wedi bod ar goll o draeth yn y dref ers dydd Sadwrn.

Bydd presenoldeb gwasanaethau brys yn parhau yn yr ardal drwy gydol y nos meddai Heddlu'r Gogledd.

Tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen i geisio dod o hyd i’r corff a’i adfer, mae teulu Athrun wedi cael gwybod am y datblygiad ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion yr heddlu.

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: “Er fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a’r pryder parhaus gan y gymuned, hoffwn atgoffa aelodau’r cyhoedd fod hon yn sefyllfa hynod o drallodus i’r teulu.

“Nid yw dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol i’n hymchwiliad ac nid yw’n barchus tuag at aelodau’r teulu yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

“Bydd y gwaith chwilio aml-asiantaeth yn parhau i’r nos ar ôl y darganfyddiad heno a byddwn yn gofyn i aelodau’r cyhoedd beidio ag ymgasglu ar y traeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.