Newyddion S4C

Neil Foden yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant

15/05/2024

Neil Foden yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant

Mae prifathro dwy ysgol yng Ngwynedd wedi ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant.

Fe gymerodd y rheithgor ychydig o dan bump awr i ddod i’r casgliad bod Neil Foden, o Hen Golwyn, yn euog ar ddiwedd achos oedd wedi para am 17 o ddyddiau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â phump o blant, oedd yn cael eu hadnabod yn y llys fel Plant A, B, C, D ag E.

Yn gwisgo crys llwyd golau, fe wrandawodd yr athro 66 oed yn astud o'r doc wrth i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi.

Fe'i cafwyd yn euog i 19 cyhuddiad yn ei erbyn allan o gyfanswm o 20. Roedd rhain yn cynnwys 12 cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn - gyda dau o'r 12 yn cynnwys gan berson oedd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.

Rhybuddiodd y Barnwr Rhys Rowlands y byddai'n wynebu cyfnod hir yn y carchar.

"Roeddech chi'n ffigwr pwerus, roeddech chi'n meddwl y gallech wneud yn union fel roeddech chi'n ddymuno," meddai'r barnwr wrth Foden.  

Dywedodd ei fod yn euog o dorri ymddiriedaeth pobl fregus iawn.

"Roedd rhai o'ch esboniadau y gwnaethoch ei gynnig ar adegau yn yr achos yn rhai rhyfeddol."

Dywedodd fod Foden wedi defnyddio ei bersonoliaeth "trahaus a rheolaethol" er mwyn cael ei ffordd ei hun, a'i fod wedi "anwybyddu pryder gwirioneddol oedd wedi ei leisio gan eraill."

Fe fydd, meddai, yn derbyn dedfryd sylweddol o garchar pan fydd yn cael ei garcharu ar 1 Gorffennaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Wrth siarad ar ôl y dyfarniad, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Evans: “Rydym yn croesawu dyfarniad y rheithgor yn dilyn achos anodd ac yn diolch iddynt am eu gwaith diwyd.

“Mae fy meddyliau i’n parhau gyda’r dioddefwyr a’u teuluoedd heddiw, sydd wedi dangos urddas a dewrder trwy gydol yr achos.

“Byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth symud ymlaen.

“Fe wnaf sylw pellach ar ôl y gwrandawiad dedfrydu.”

Cyhuddiadau

Roedd Foden, oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, wedi ei wahardd o’i waith pan gafodd ei arestio ym mis Medi 2023.

Roedd wedi gwadu 13 cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, a dau gyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn gan un oedd mewn safle o ymddiriedaeth.

Roedd hefyd wedi gwadu cyhuddiadau unigol o achosi neu annog gweithgaredd rhywiol â phlentyn, ceisio trefnu i gyflawni trosedd rhyw yn erbyn plentyn, cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, bod â lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant, ac ymosod ar blentyn.

Clywodd y llys dystiolaeth yn ystod yr achos bod Neil Foden wedi cyflawni gweithred rywiol gydag un ferch ar sawl achlysur, gan fynd a'r plentyn am dripiau yn ei gar.

Roedd Neil Foden wedi dechrau cam-drin y plentyn - 'Plentyn A' - drwy ei chofleidio, a hynny ym mis Ionawr 2023. 

Yn fuan iawn wedi hynny roedd Plentyn A dan yr argraff ei bod mewn perthynas â Foden, ac fe ddechreuodd y ddau dreulio llawer o amser ar eu pen eu hunain.  

Aeth Foden a'r plentyn ar deithiau yn ei gar, lle byddai'r athro yn aml yn ei cham-drin mewn lleoliadau diarffordd. 

Fe wnaeth Plentyn A anfon lluniau anweddus o’i hun at Foden yn defnyddio enwau ffug ar blatfform Whatsapp, ac fe geisiodd Foden ddileu’r lluniau o ffolder gudd ar ei ffôn hanner awr cyn i'r heddlu ei arestio. 

Roedd hefyd wedi anfon cyfres o negeseuon Whatsapp at y plentyn yn disgrifio gweithred rywiol yr oedd am ei gwneud gyda'r plentyn, ac roedd crysau o eiddo Neil Foden ym meddiant y plentyn ar ddiwrnod ei arestio ar 6 Medi 2023.  

Fe glywodd y llys dystiolaeth gan Blentyn A yn dweud fod Foden wedi ei gadael mewn cyflwr o “ddryswch llwyr”, bod ei “theimladau dros y lle”, a'i bod yn ansicr o’i hun yn dilyn y gamdriniaeth.

Image
Llys

Roedd Foden hefyd wedi cyffwrdd â choes plentyn oedd yn cael ei hadnabod gan y llys fel Plentyn B, ac roedd wedi pinsio clun y plentyn yma, gan roi ei law o dan ei dillad hi. 

Roedd hefyd yn euog o ymosod ar Blentyn C gan osod ei law ar rhan uchaf ei chluniau.

 Honnodd Plentyn D fod Foden ar un achlysur wedi anadlu’n agos ar ei gwddf ac wedi cyffwrdd â’i phen ôl, a hynny o dan ei sgert. Ond fe'i gafwyd yn ddieuog o weithgaredd rhywiol gyda hi.

Fe ddechreuodd y gamdriniaeth yn erbyn Plentyn E yn 2019. 

Roedd Foden wedi dechrau mynd â phlentyn E ar deithiau y tu allan i Wynedd,  roedd y ddau wedi cael rhyw ac wedi treulio nosweithiau gyda'i gilydd mewn gwahanol westai. 

Roedd Plentyn E wedi disgrifio ei pherthynas â Foden, fel “unrhyw berthynas normal rhwng dau berson oedd mewn cariad efo'i gilydd.” 

Roedd tystiolaeth o ffôn Plentyn E yn dangos fod lluniau wedi eu tynnu o westy yr oedd y ddau wedi aros ynddo, ac roedd cofnodion bancio Plentyn E yn dangos ei bod wedi defnyddio ei cherdyn debyd yn yr un gwestai a’r rhai yr oedd Neil Foden yn aros ynddynt ar yr un adeg. 

Cyffion

Fe gafodd pâr o gyffion eu dangos i’r llys, oedd yn ôl yr erlyniad yn cynnwys olion DNA Plentyn E a Foden. 

Roedd Plentyn E hefyd wedi benthyg £900 i Neil Foden er mwyn cwblhau gwaith ar ystafell ymolchi yn ei gartref. 

Wrth roi tystiolaeth o flaen y llys, fe ddywedodd Plentyn E fod Foden wedi defnyddio gwregys lledr i’w chlymu pan oedd yn cael cyfathrach â hi.

Dywedodd Neil Foden yn ystod ei amddiffyniad fod cyflwr meddygol oedd ganddo'n ei atal rhag gallu cael rhyw.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.