Newyddion S4C

Baban cwpl o Gymru wedi ei eni dri mis yn gynnar yn Tenerife

26/07/2024

Baban cwpl o Gymru wedi ei eni dri mis yn gynnar yn Tenerife

Mae cwpl ifanc o Lanelli a ddaeth yn rhieni yn annisgwyl tra ar wyliau yn Tenerife wedi dweud eu bod wedi eu syfrdanu ar ôl i bobol gyfrannu miloedd o bunnoedd i’w helpu i aros gyda’u mab.

Cafodd eu baban George ei eni tri mis yn gynnar tra'r oedd y cwpl ar yr ynys.

Gan ei fod mewn cyflwr sefydlog ni all yswiriant y cwpl dalu eu costau llety a byw.

Maen nhw wedi cael gwybod y bydd angen iddyn nhw aros yn Tenerife am yr wythnos nesaf.

Mae'r cwmni yswiriant wedi cael cais am sylw.

Gwyliau

Yr wythnos diwethaf aeth Cai Daniels, 26 oed ac Alis Lloyd, 20 oed ar wyliau i Tenerife i gael taith sydyn cyn bod disgwyl i’w babi gyrraedd ym mis Hydref.

Ond yn annisgwyl, aeth Alis i esgor a rhoddodd enedigaeth yn Ysbyty Athrofaol Nuestra Señora de Candelaria.

Roedd Cai i fod i chwarae golff pan aeth Alis i esgor.

“Roedd i fod i fod yn seibiant cyn i ni gicio i mewn i gêr. Rydyn ni newydd symud tŷ, felly nid ydym wedi gorffen y feithrinfa, yn amlwg roeddem yn meddwl ein bod am gael tri mis arall.”

Ganed George am 21.40 ar 19 Gorffennaf yn pwyso tri phwys. 

Mae bellach yn anadlu ar ei ben ei hun ond mae angen tiwb i'w fwydo o hyd.

Image
baban
Alis Lloyd gyda'i mab yn yr ysbyty

Mae’r cwpl yn dweud bod cael babi dramor yn brofiad llawn “straen”.

Dywedodd Alis:  “Roedd y rhwystr iaith yn dipyn o frwydr. Doeddwn i ddim yn gallu gweld Cai, ni allai Cai fy ngweld. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am y babi, doedd neb yn gallu fy neall i.”

Dywedwyd wrth Cai i aros mewn coridor am awr tra roedd George yn cael ei eni.

“Doedd gen i ddim signal ar fy ffôn, roedd fy ffôn wedi marw. Felly arhosais am awr. Yna gwelais y blwch deor baban hwn yn mynd heibio gyda goleuadau arno ac roedd George yno.

“Ges i bawb yn fy ffonio yn gofyn beth oedd yn digwydd a doedd gen i ddim syniad!”

Dywed Cai eu bod nhw dal mewn anghrediniaeth. “Rydyn ni’n dal i edrych ar ein gilydd ac yn mynd ‘Alla i ddim credu ein bod ni wedi cael babi yn Tenerife!’”

Image
George
Cafodd baban George ei eni dri mis yn gynnar

Cafodd Alis a Cai ddal George yn eu breichiau pan oedd yn bum niwrnod oed.

“Roedd mor anhygoel. Fe helpodd ni i sylweddoli am y tro cyntaf ein bod ni wedi cael babi! Fe roddodd gymaint o hwb i ni.”

Dywedodd Cai: “Dywedwyd wrthym am barhau i ddarllen iddo felly roeddwn yn ceisio lawrlwytho Kindle ar fy ffôn yn gyflym. Yr unig beth y gallwn ei gael oedd Harry Potter. Felly roeddwn i’n eistedd yno yn darllen Harry Potter i faban pum diwrnod oed.”

Gan bod George yn gynamserol, mae'r cwpl o Lanelli wedi cael gwybod y gallai fod hyd at wyth wythnos cyn i'r teulu gael dychwelyd adref.

Nid yw’r yswiriant yn talu unrhyw iawndal am eu llety na’u costau byw.

Mae gwesty'r cwpl awr i ffwrdd o'r ysbyty. Maen nhw’n bwriadu symud yn nes at y babi pan fydd Alis wedi gwella o’i llawdriniaeth genedigaeth.

Ar hyn o bryd mae taith i'r ysbyty ag yn ôl yn costio 200 ewro. 

Maent yn amcangyfrif y bydd arian ychwanegol ar gyfer teithio a llety yn costio £6000.

Hunangyflogedig

Ystyriodd Cai adael Tenerife i weithio er mwyn talu'r arian ychwanegol sydd ei angen.

“Rwy’n hunangyflogedig felly mae’n rhaid i mi fod yn y DU i ennill cyflog. Roedd yn frawychus a dweud y gwir.”

Ddydd Iau sefydlodd ffrind i Cai dudalen codi arian i helpu'r rhieni newydd. 

Maen nhw wedi codi dros £3,000 mewn llai na 24 awr.

Dywedodd Cai: “Roedden ni’n teimlo’n anesmwyth oherwydd dydyn ni ddim y math o bobl i ofyn am help.”

Yn ôl Alis mae pobol gartre wedi bod “mor gefnogol”.

“Mae fy mam wedi cael pobl i fynd ati ar y strydoedd yn gofyn sut y gallant helpu.

"Rydyn ni mor ddiolchgar.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.