Newyddion S4C

O Brentford i'r Bundesliga: Y Cymro Fin Stevens yn ymuno â St. Pauli

26/07/2024
Fin Stevens

Mae amddiffynnwr Cymru Fin Stevens wedi ymuno â chlwb St. Pauli yn Yr Almaen.

Ymunodd y Cymro 21 oed gyda'r clwb ddydd Gwener ar ôl pedair blynedd gyda Brentford yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi chwarae i Oxford United ac Abertawe ar fenthyg.

Dywedodd ei fod yn gyffrous i gale chwarae yn un o "gynghreiriau cryfaf y byd" sef y Bundesliga.

"Dwi'n edrych ymlaen at gymryd y cam hwn i un o gynghreiriau cryfaf y byd gyda St. Pauli.

"Dwi'n siŵr bod fy sgiliau yn gweithio yn dda iawn gyda'r ffordd mae'r tîm yn chwarae.

"Rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau'r bennod newydd yma gyda'r clwb. Mae'n gyfle anhygoel i chwarae o flaen cefnogwyr anhygoel."

Efallai bydd rhai cefnogwyr Cymru yn cofio am un sydd wedi chwarae i St. Pauli yn y gorffennol.

Roedd yr amddiffynnwr James Lawrence yn chwarae i'r clwb rhwng 2019 a 2022.

Mae wedi chwarae dros Gymru ar 11 achlysur ac roedd yn chwarae i St. Pauli tra'r oedd y clwb yn 2. Bundesliga.

Roedd yn gapten pan wnaeth y clwb guro Borussia Dortmund yn rownd yr wyth olaf y DFB Pokal, Cwpan Cynghrair Yr Almaen.

Llun: FC St. Pauli

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.