Gwrthod cais i addasu hen gapel ym Môn yn llety gwyliau am y trydydd tro
Mae cynlluniau i addasu capel o'r 19eg ganrif ar Ynys Môn yn llety gwyliau wedi cael eu gwrthod am y trydydd tro.
Gwrthododd pwyllgor cynllunio y cyngor y cais i droi Capel Jerusalem yn Llangoed yn dri fflat gwyliau – er gwaethaf rhybuddion y gallai’r mater fynd i apêl.
Roedd y cais wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir Ynys Môn gan gwmni Baby Bird Development Ltd o Fanceinion sy'n cael ei redeg gan Loretta ac Anthony Hodari.
Roedd cynlluniau i droi’r capel yn bedwar fflat gwyliau eisoes wedi’u gwrthod gan y pwyllgor ym mis Tachwedd, 2022.
Cafodd cynllun diwygiedig yn gostwng nifer y fflatiau i dri hefyd ei wrthod ym mis Mehefin, 2024.
Dychwelwyd y mater i’r pwyllgor gan gynghorwyr ward Seirol, y Cyng Gary Pritchard, y Cyng Alun Roberts a’r Cyng Carwyn Jones.
Roedd y materion a godwyd yn cynnwys diffyg parcio, effaith ar ddiogelwch priffyrdd a gorddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.
Pryderon
Roedd cynghorwyr wedi mynegi pryderon bod y trothwy ar gyfer nifer y tai haf yn yr ardal o 15% wedi ei dorri, ac nad oedd wedi cynnwys nifer y safleoedd Gwely a Brecwast Airbnb.
Dywedodd y swyddog cynllunio Rhys Jones fod y trothwy o 15% yn “ganllaw yn unig,” a bod y ffigwr ar gyfer Llangoed “dim ond ychydig yn uwch.”
“Rhaid i ni ystyried bod y cyngor wedi colli nifer o apeliadau, gyda’r arolygiaeth yn nodi nad oedd y cyngor wedi darparu unrhyw dystiolaeth y byddai cynnydd bach dros y trothwy 15% yn arwain yn uniongyrchol at unrhyw effaith andwyol.”
Ychwanegodd: “Ni allwn ddweud yn rhesymol y byddai cynnydd o O.36% yn cael effaith andwyol ar ein cymunedau heb dystiolaeth.”
Roedd y data diweddaraf yn dangos bod 681 o unedau bellach yn ardal Llangoed, gyda 70 yn ail gartrefi a 35 yn unedau hunanarlwyo.
Argymhellion
Aeth y pwyllgor yn erbyn yr argymhellion swyddogion – gyda’r Cynghorydd John Ifan Jones yn cynnig gwrthod y cais ac fe'i eiliwyd gan y Cyng Robin Williams – roedd y bleidlais un yn llai nag unfrydol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts bod y cais wedi bod yn “hynod o gynhennus.”
“Mae wedi creu llawer o drafod lleol a gwrthwynebiad ffyrnig gan drigolion lleol a phob aelod o’r cyngor cymuned,” meddai.
“Mae yna wrthwynebiad enfawr oherwydd diffyg parcio ger y safle.
“Mae unrhyw un sy’n byw yn y pentref neu fel fi sy’n gyrru trwyddo yn gwbl ymwybodol o’r diffyg parcio a’r anhawster wrth yrru drwodd…
“Nid yw’r 15.36% yn swnio fel cynnydd mawr ar 15%, ond ar ôl i chi osod cynsail, os ewch dros y trothwy, gallwch barhau i wneud hynny’n gynyddrannol… mae’r ffigur a glywsom heddiw hyd yn oed yn uwch.”
Disgrifiodd y Cynghorydd Gary Pritchard y cais fel un “cwbl anaddas” a theimlai y gallai arwain at broblemau parcio a thrafnidiaeth.
“Rwy’n pledio gyda chi i ystyried y ffigwr o 15%, os ydyn ni’n caniatáu i bethau fynd dros y trothwy cyn bo hir bydd yn cyrraedd 20% a mwy, a byddwn ni’n wynebu sefyllfa yn union fel yn Nhrearddur lle mae yn 40%.”