Newyddion S4C

Pryderon am gynlluniau ysgolion cynradd Rhondda Cynon Taf

Newyddion S4C 26/07/2024

Pryderon am gynlluniau ysgolion cynradd Rhondda Cynon Taf

Mae pryderon wedi codi am gynlluniau newydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer ysgolion cynradd yn y sir.
 
Fel rhan o ddatblygiad tai mawr ar gyrion pentref Llanharan, bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei chreu.
 
Ond bydd statws iaith ysgol gyfagos yn newid o fod yn un dwyieithog i fod yn un Saesneg yn unig - penderfyniad, meddai mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, fydd yn "llesteirio" twf y Gymraeg.
 
Yn ôl y cyngor, y disgwyl yw y bydd y cynigion yn cynyddu’r nifer sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal.
 
Bydd 1,850 o dai yn cael eu hadeiladu fel rhan o gynllun tai Llanilid, fydd hefyd yn cynnwys adnoddau cymunedol ac ysgol gynradd Gymraeg newydd.
 
Bydd lle i 480 o ddisgyblion, yno yn ogystal â 60 o rai meithrin.
 
Ond bydd Ysgol Gynradd Dolau sydd ger llaw yn newid o fod yn ddwyieithog i ysgol Saesneg yn unig gyda lle i 488 o ddisgyblion a 63 meithrin.
 
Ar hyn o bryd mae tua 300 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg a thua 150 drwy’r Gymraeg yno.
 
Y bwriad ydi i'r cynlluniau newydd ddod i rym erbyn mis Medi 2027.
 
Image
Elin Maher
 
Wrth gyfeirio at yr ysgol gynradd Gymraeg newydd, dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ei bod "wrth gwrs" yn croesawu hynny.
 
"Yr hyn sydd wedi dod fel sioc ac o bosib siom i ni yw bod y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn tyfu ac yn mynd i fod yn fwy na'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal."
 
Mae'r mudiad yn galw ar y cyngor i "ailystyried" cynyddu'r ddarpariaeth Saesneg a sicrhau bod y ddarpariaeth Gymraeg yn well yn yr ardal.
 
"Beth yw hyn i bob pwrpas i ni yw penderfyniad gwleidyddol i gadw'r ddysgl yn wastad yn hytrach na edrych ar y rhesymau gwirioneddol dros ddatblygu addysg Gymraeg.”
 
Ychwanegodd nad yw'r cynlluniau yn cyd-fynd a'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddweud mai'n "llesteirio twf os rhywbeth".
Image
Osian Rowlands
 
Dywedodd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, bod cael ysgol gynradd Gymraeg newydd yn gam ymlaen, ond bod newid statws ysgol gynradd Dolau yn “gam yn ôl”.
 
“Mae ysgol Dolau yn ysgol dda a lwyddiannus,” meddai.
 
“Beth sydd yn mynd i ddigwydd wrth gwrs yw mai 150 o lefydd Cymraeg yn yr ysgol mynd i gael eu llenwi gyntaf a  mae yna risg bod 'na genhedlaeth goll yn mynd i fod oherwydd beth sy’n dueddol o ddigwydd yw mae teuluoedd yn sticio gyda’r un ysgol ac felly mae pawb sydd yn ysgol Dolau yn barod yn mynd i aros yna. 
 
“Felly dyna’r consyrn a’r cwestiwn yw oes rhaid newid Dolau o gwbl.”
 
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dadlau y bydd addysg yn y ddwy iaith yn tyfu ac yn cael “effaith gadarnhaol” ar ddisgyblion o bob oed.
 
“Yn bwysig iawn, mae’r buddsoddiad sydd wedi'i neilltuo i adeiladu ysgol Gymraeg newydd sbon yn diogelu nifer y lleoedd penodedig sydd ar gael i ddisgyblion mewn addysg Gymraeg yn yr ardal,” meddai ldefarydd.
 
“Mae disgwyl i'r cynigion arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg o ganlyniad i hyn.
 
“Mae hyn yn cefnogi targedau cenedlaethol ‘Cymraeg 2050’, ynghyd â’r targedau a’r deilliannau sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Cyngor ei hun.”
 
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn agor fis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.