Newyddion S4C

Pawen Lawen: Aelodau'r Senedd a'u cŵn yn brwydro i ennill cystadleuaeth Ci’r Flwyddyn

13/05/2024
Jack Sargeant a Coco. Janet Finch-Saunders ac Alfie

Mae aelodau Senedd Cymru a'u cŵn yn brwydro i ennill cystadleuaeth Ci’r Flwyddyn y Senedd.

Bydd gwleidyddion ym Mae Caerdydd a’u cŵn yn mynd benben, neu bawen i bawen i weld pa gi fydd yr enillydd ar 23 Mai.

Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan ddilyn yn ôl traed cystadlaethau poblogaidd Ci’r Flwyddyn San Steffan a Chi’r Flwyddyn Holyrood.

Bydd cŵn o bob brîd ymgasglu ym Mharc Britannia yn y brifddinas, i weld pwy fydd yn cael ei goroni'n Ci'r Flwyddyn eleni.

Y cystadleuwyr fydd:

– Jane Dodds, MS Dem Rhyddfrydol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru a’i Milgi, Wanda

– Jack Sargeant, AS Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy a’i Cavalier King Charlies Spaniel, Coco

– James Evans, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a’i Cocker Spaniel, Bonnie

– Janet Finch-Saunders, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy a’i Collie Cymreig, Alfie

– Darren Millar, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd a’i Wipet, Blue.

Image
Cwn yn Senedd
Pawen chwith i bawen dde: James Evans a Bonnie, Darren Millar a Blue, Jane Dodds a Wanda. Llun: PA

Bydd yr Aelodau Seneddol sy’n cymryd rhan yn gofyn i’r cyhoedd bleidleisio drostynt ar-lein, tra bydd barnwyr y diwrnod yn beirniadu'r cystadleuwyr.

Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd gan The Kennel Club a Dogs Trust a’i fwriad yw dathlu’r perthynas unigryw rhwng anifeiliaid anwes a’u perchnogion ac annog perchnogaeth cŵn cyfrifol.

Fe allwch chi bleidleisio dros Ci y Flwyddyn y Senedd fan hyn.

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.