Cwymp y pedoffeil Neil Foden: O'r byd addysg i gell carchar
Cwymp y pedoffeil Neil Foden: O'r byd addysg i gell carchar
**Erthygl a gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol ar 15 Mai yn dilyn euogfarn Neil Foden.
Wrth wrando'n astud ar y dystiolaeth yn ei erbyn yn llys rhif 1, roedd tro ar fyd Neil Foden yn amlwg i bawb oedd yn dilyn ei achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Eisteddai yn y doc bob dydd gyda swyddog diogelwch droedfedd i ffwrdd.
Dim crys na thei na siwt prifathro amdano bellach, ond dillad dyn oedd wedi treulio'r misoedd diwethaf dan glo, a'i ddyfodol yn y fantol.
Gan amlaf, eisteddai yn llonydd heb emosiwn.
Ysgwydodd ei ben yn achlysurol.
O dro i dro fe fyddai'n gwneud nodiadau wrth wrando ar dyst yn pentyrru'r dystiolaeth yn ei erbyn.
Plant oedd nifer o'r tystion hynny, yn dewis ailadrodd eu profiadau yng nghanol ffurfioldeb estron y llys o flaen dieithriaid - yn farnwr, yn rheithgor, cyfreithwyr, swyddogion, aelodau'r wasg, a'r cyhoedd.
Siaradodd y mwyafrif am eu profiadau o du ôl i sgrin, gan fynnu bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Pan ddaeth dyfarniad y rheithgor am 14:40 ddydd Mercher, fe gawsant gadarnhad fod rhywun wedi gwrando.
Cwymp
Ag yntau bellach yn droseddwr rhyw yn wynebu cyfnod sylweddol dan glo, fe fydd enw Neil Foden yn debyg o fod ar restr troseddwyr rhyw am oes.
Cwymp sydyn a sylweddol i ddyn oedd am flynyddoedd yn cael ei ystyried fel awdurdod ar faterion addysg, yn llefarydd undeb ac yn wyneb cyson ar raglenni newyddion.
Cafodd Neil Foden ei fagu yn ardal Dwygyfylchi yn Sir Conwy, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol John Bright yn Llandudno, cyn mynd i'r coleg ym Mangor.
Fe gafodd ei swydd ddysgu gyntaf fel athro Saesneg yn Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda yn 1979, cyn cael ei benodi'n ddirprwy bennaeth ar Ysgol Friars ym Mangor yn 1989.
Fe gafodd ei ddyrchafu’n brifathro ar Ysgol Friars yn 1997.
Roedd Ysgol Friars yn cael ei hystyried fel ysgol uwchradd lwyddiannus ac arloesol dros y blynyddoedd, gyda rhai o weithdrefnau Friars yn cael eu hefelychu mewn ysgolion ar draws Cymru.
Llwyddodd Foden ei hun i greu argraff ar y byd addysg, gan dreulio cyfnodau'n rheoli dros dro yn Ysgol Y Gadair, Dolgellau, ac yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Roedd Foden hefyd yn wyneb amlwg ymysg yr undebau athrawon, ac yn Swyddog Gweithredol dros Gymru i undeb yr NEU.
Ymddygiad
Ond nid oedd ei yrfa heb ei thrafferthion cyn mis Medi'r llynedd pan gafodd ei arestio.
Fe gafodd gerydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2020 am ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Clywodd gwrandawiad ei fod wedi targedu athro drwy ei feio am ganslo taith ysgol yn 2014.
Fe ddaeth i sylw cenedlaethol yn 2021 yn dilyn anghydfod dros filiau cinio ysgol oedd heb eu talu gan rai teuluoedd yn Nyffryn Nantlle.
Roedd wedi ysgrifennu llythyr at rieni oedd mewn dyled i gantîn yr ysgol yn eu rhybuddio na fyddai'r ysgol yn bwydo plant oni bai fod dyledion yn cael eu talu.
Fe wnaeth Marcus Rashford, chwaraewr pêl-droed Manchester United a Lloegr, feirniadu’r penderfyniad ar gyfryngau cymdeithasol.
Aeth Rashford, a dderbyniodd MBE yn ddiweddar am ei waith ymgyrchu dros bobl ddifreintiedig, ymlaen i feirniadu Foden yn gyhoeddus am ei benderfyniad i weithredu yn y fath fodd.
Flwyddyn yn ddiweddarach fe ddaeth enw'r prifathro i benawdau'r newyddion wedi i fideo ohono'n gafael yng ngwar disgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle gael ei rhannu'n eang.
Dywedodd Cyngor Gwynedd ar y pryd eu bod yn ymwybodol o'r fideo a bod lles pob disgybl a staff y sir yn flaenoriaeth.
Cwestiynau anodd
Gyda dyfarniad y rheithgor ddydd Mercher yn cau pen y mwdwl ar yrfa hir Neil Foden, fe fydd hefyd yn arwain at gau'r drws ar ei ryddid am amser maith pan ddaw ei ddedfryd.
Ac fe fydd cwestiynau anodd i'w hateb gan ei gyn-gyflogwr Cyngor Gwynedd am y ffordd y cafodd ymddygiad y pennaeth ei drafod yn y gorffennol.
Clywodd y llys nad oedd y cyngor wedi ymchwilio'n ffurfiol i bryderon am Foden ar un achlysur, a'i fod wedi derbyn enw'r sawl oedd wedi codi'r pryderon hynny amdano.
Pwysleisiodd y Barnwr Rhys Rowlands ar ddiwedd yr achos bod y pryderon wedi eu hadrodd i'r cyngor mor bell yn ôl a 2019.
"Dyna ni - 2019, ac fe ddigwyddodd dim o gwbl", meddai.
Ychwanegodd: "Pan gafodd pryderon gwirioneddol eu codi ynglŷn â'r diffynydd gyda'r cyngor sir, fe gafon nhw eu gwrthod i bob pwrpas.
"Rydym bellach yn gwybod ei fod wedi parhau i droseddu. Mae hynny'n achos pryder gwirioneddol."
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb i ddyfarniad y llys drwy gyhoeddi adolygiad annibynnol i'r achos.
Wrth i'r cyfreithwyr, aelodau'r wasg a'r cyhoedd droi eu sylw o Lys rhif 1 yn Yr Wyddgrug ar ddiwedd yr achos, fe fydd un cwestiwn ar feddyliau llawer oedd yno yn parhau.
Pam fod athro, yng ngwyneb yr holl dystiolaeth yn ei erbyn, wedi dewis gorfodi plant i ail-fyw eu profiadau'n gyhoeddus o flaen dieithriaid, rhwng pedair wal llys barn?
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.