Newyddion S4C

'Does neb yn gofyn ‘Sut mae Dad’?'

13/05/2024

'Does neb yn gofyn ‘Sut mae Dad’?'

Mae cynnwys yr erthygl hon yn trafod hunanladdiad ac mae gwybodaeth am gymorth ar waelod yr erthygl.

Mae dyn o Fangor a geisiodd ladd ei hun 6 wythnos ar ôl genedigaeth ei ail blentyn yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar dadau yng Nghymru.

Yn 2021 fe ddioddefodd Aled Vaughan Edwards o Fangor gyda’i iechyd meddwl gan geisio dod â’i fywyd i ben.

“O'n i’n flin, jest yn teimlo bod fi methu gwneud digon ac o'n i’n meddwl sa pawb gwell off hebdda fi”.

Ar ôl derbyn cefnogaeth a thriniaeth mae o rŵan wedi sefydlu menter newydd i helpu tadau a’u teuluoedd yn y gogledd orllewin.

Yn dad i ddau o blant, Sulli a Bea, mae Aled yn son am ei falchder a’i gariad o fod yn dad ond yn dweud iddo ddioddef yn fawr gyda heriau iechyd meddwl.

“Tua chwech wythnos oedd hi ar ôl i hi [Bea] gael ei geni es i off a nes i trio cymryd bywyd fy hun”.

“O'n i wedi cyrraedd pwynt lle o'n i’n teimlo... bob dim o'n i’n neud... doedd o ddim yn ddigon i’r plant neu i’r wraig ac o'n i’n flin efo fy hun”.

“Hyd yn oed os oeddwn i yn codi ganol nos, newid nappies, yn helpu fel bod fy ngwraig ddim gorfod, ond doedd o dal ddim yn ddigon i fi felly o'n i wir yn meddwl sa pawb yn well hebdda fi”.

Image
Aled

 Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, mae’n dweud mai ei blentyn ieuengaf Sulli wnaeth ei atal o rhag dod â’i fywyd i ben.

“Ddoth o atai y bore yna a nath o roi ei fraich rownd fi a rhoi hug i mi am ddim rheswm”.

“Hwnna nath stopio fi, nid meddwl bod o am dyfu fyny heb dad ond gwybod swn i byth yn teimlo y cariad yna eto, cael rhywun sy’n meddwl gymaint ohona chdi felly nesh i ffonio doctor ac es i syth i A&E a cael triniaeth yna”.

Yn ôl y swyddfa ystadegau gwladol, roedd 74% o'r holl hunanladdiadau yn 2022 yn ddynion.

Mae ystadegau hunanladdiadau rhwng 2022-2023 y gwasanaeth iechyd hefyd yn nodi fod y gyfradd ar ei uchaf o blith dynion rhwng 35-44 oed”.

Image
aled

Wedi derbyn triniaeth a chefnogaeth gan aelodau proffesiynnol a’i deulu a’i ffrindiau, mae o rŵan yn canolbwyntio ar fenter newydd i helpu dynion ifanc a thadau sy’n dioddef.

Enw’r fenter ydi ‘Sut mae Dad?”.

“Does neb yn gofyn y cwestiwn, ‘sut mae dad’?”, meddai.

"Pan nes i  fynd drwy beth nes i, nath neb holi fi sut o'n i fel dad, hyd yn oed professionals - nath neb ofyn i mi ydw i 'n iawn?

“Do, gofyn i’r wraig wrth gwrs, ond jest un conversation yn holi, wyt ti’n iawn, wyt ti angen help?”

Image
aled

Mae’r fenter newydd yn dod â thadau o’r ardal at ei gilydd i fynd am dro anffurfiol, i siarad ac i rannu pryderon.

A hithau’n wythnos codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, mae o unwaith eto’n pwysleisio pwysigrwydd siarad yn agored am unrhyw bryderon.

Os ydi cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth ar wefan S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.