Newyddion S4C

Heddlu'n ymchwilio wedi i fideo ddangos ymosodiad honedig ar un o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen

13/05/2024
Ysgol Syr Hugh Owen

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod nhw'n ymchwilio wedi i fideo gael ei rhannu arlein yn dangos ymosodiad honedig ar un o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Roedd y fideo a ymddangosodd ar Facebook am gyfnod, yn dangos yr hyn oedd yn ymddangos fel bachgen o'r ysgol yn cael ei fwrw a’i gicio gan fachgen arall.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw'n "ymchwilio i ddigwyddiad yn ymwneud â disgyblion mewn ysgol yng Nghaernarfon a ddigwyddodd oddi ar safle'r ysgol ddydd Mawrth Mai 7fed".

Mae swyddogion mewn cysylltiad â'r dioddefwr, ei deulu a'r ysgol, ac yn parhau i'w diweddaru ynglŷn â'r ymchwiliad, medden nhw.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: "Rydym yn ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. 

"Wrth fod yr ymchwiliad yn parhau, byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio â rhannu'r fideo ymhellach, a'i dynnu o unrhyw dudalennau. 

"Mae hyn er lles y disgybl dan sylw."

'Ddim yn goddef'

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Addysg Cyngor Gwynedd ac Ysgol Syr Hugh Owen wrth Newyddion S4C: "Rydym yn ymwybodol o’r digwyddiad hwn sydd wedi digwydd tu allan i oriau ysgol. 

"Mae staff Ysgol Syr Hugh Owen yn cefnogi’r heddlu gyda’u hymchwiliad. 

"Nid yw’r ysgol yn goddef unrhyw fath o fwlio ac eir i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â gweithdrefnau. 

"Mae lles holl ddisgyblion Gwynedd yn flaenoriaeth i ni."

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo ymholiadau gysylltu â'r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000419754.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.