Newyddion S4C

Mam o Gonwy yn wynebu gorfod gadael y DU dros ffi fisa

13/05/2024
Marie Madrid

Mae mam o Gonwy sydd wedi byw yn y DU am 18 mlynedd yn dweud ei bod yn pryderu y bydd yn rhaid iddi adael y wlad am nad yw'n gallu fforddio adnewyddu ei fisa. 

Mae Marie Madrid, 33 oed, yn byw gyda'i gŵr, Aled, a'u mab 18 mis oed Cayden yng Nghonwy. 

Mae wedi byw yn y DU am 18 mlynedd ac wedi gwario £12,000 yn adnewyddu ei fisa er mwyn parhau i fyw yn y wlad dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Ond nid yw'n gallu fforddio talu'r tâl gofal iechyd ychwanegol y tro hwn, sef ffi ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr er mwyn iddyn nhw gael mynediad at wasanaethau iechyd cyhoeddus. 

Fe gafodd wybod ym mis Ebrill y byddai'n rhaid iddi ddisgwyl dwy flynedd arall cyn ymgeisio i barhau yn y DU am gyfnod amhenodol. 

Yn y cyfamser, bydd yn rhaid iddi adnewyddu ei fisa unwaith yn rhagor, a hynny yn cynnwys ffi GIG. 

Image
Marie Madrid
Marie Madrid, Aled a Cayden

Fe fydd y cais yn costio o gwmpas £5,000, ac mae Ms Madrid yn poeni y bydd hi'n gorfod gadael y wlad os nad yw'n gallu ei fforddio. 

Fe ymgeisiodd Ms Madrid am fisa dros dro yn 2014 cyn newid i fisa priod yn 2021. 

Mae Ms Madrid yn gweithio i'r GIG ond nid yw eto'n gymwys am gynllun ad-daliad adran Iechyd a Gofal Llywodraeth y DU, sy'n caniatáu gweithwyr tramor sy'n gweithio yn adrannau gofal a iechyd y DU i adennill y ffi ychwanegol. 

"Er fy mod i'n gweithio i'r GIG, mae'n rhaid i mi dalu'r ffi ychwanegol," meddai. 

"Mae fy mhlentyn a fy ngŵr yn ddiogel, oherwydd eu bod nhw'n Brydeinwyr. Fy mhryder i ydi y byddai'n rhaid i mi adael fy mhlentyn a fy ngŵr, ac nid yw hynny yn deg, yn enwedig oherwydd dwi bob tro wedi ceisio gwneud pethau y ffordd gywir."

Ychwanegodd ei gŵr, Aled: "Os nad ydi pethau yn gweithio, byddaf yn colli fy mhartner, y person dwi'n ddibynnu arno bob dydd. 

"Fyddwn i ddim yn gallu goroesi hebddi."

Image
Marie
Marie Madrid ac Aled

Fe symudodd Ms Madrid o Hong Kong i Gymru ym mis Medi 2006, gan gwblhau ei Lefel A ac astudio dylunio graffig yn y brifysgol. 

Yn 2014, ar ôl cais aflwyddianus i adnewyddu ei fisa myfyriwr, fe ymgeisiodd am fisa sy'n rhoi'r hawl i berson aros yn y DU am gyfnod penodol, sydd fel arfer rhwng dwy a thair blynedd.

Fe gafodd y cais ei dderbyn a oedd yn golygu bod Ms Madrid yn gallu byw a gweithio yn gyfreithlon yn y DU. 

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth gyfarfod ei gŵr, Aled, ac fe briododd y ddau dair blynedd yn ddiweddarach. 

Image
marie
Y teulu

Fe gafodd Ms Madrid ei fisa dros dro cyntaf 10 mlynedd yn ôl, ac mae wedi gwario £12,000 ar eu hadnewyddu ers hynny. 

O dan y cynllun fisa, byddai hi bellach yn gymwys i barhau yn y wlad am gyfnod amhenodol.

Ond wedi iddi briodi, fe symudodd Ms Madrid ymlaen i gael fisa priod, sydd â gofynion gwahanol, ac fe gadarnhaodd ei chyfreithwyr y byddai'n rhaid iddi aros dwy flynedd arall, ac felly angen adnewyddu ei fisa priod unwaith eto.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Er ein bod yn cydnabod y cyfraniadau sylweddol y mae mudwyr yn ei wneud i’r DU, polisi’r llywodraeth ydy y dylai ymfudwyr gyfrannu at y gwasanaethau GIG cynhwysfawr ac o ansawdd uchel sydd ar gael iddynt o’r eiliad y maent yn cyrraedd y DU."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.