Rhybudd AS Llafur y Rhondda wrth dderbyn triniaeth am ganser
Mae AS Llafur y Rhondda wedi rhybuddio pobl i gymryd canser y croen o ddifrif ar ôl datgelu ei fod yn derbyn triniaeth ar ôl cael diagnosis o ganser.
Dywedodd Syr Chris Bryant fod ganddo “bob gobaith” o gael ei drin yn llwyddiannus am ganser y croen oedd wedi ail-ymddangos yn ei ysgyfaint.
Roedd yr AS sy’n weinidog yr wrthblaid dros y Diwydiannau Creadigol a Digidol wedi derbyn triniaeth bum mlynedd yn ôl ar gyfer melanoma a gafodd ei ddarganfod ar gefn ei ben.
Cafodd y canser ei ddarganfod yn ei ysgyfaint fel rhan o’r sganiau rheolaidd y mae wedi’u cael ers hynny, meddai.
Dywedodd y dylai pobl cymryd canser y croen o ddifrif a gwisgo eli haul a dillad addas yn yr haul.
“Ychydig dros bum mlynedd yn ôl, gwelodd fy ngŵr fan du (mole) rhyfedd ar gefn fy mhen a phenderfynais fynd ag ef at y meddyg dim ond i gael ei wirio,” meddai.
“A diolch byth fe wnes i, oherwydd roedd o’n felanoma, math arbennig o ddieflig o ganser y croen, ac un oeddwn i wedi dod o hyd iddo’n hwyr - cam 3B.”
‘Dedfryd o farwolaeth’
Dim ond 40% o siawns a gafodd o fyw am flwyddyn ond fe wnaeth llawdriniaeth a therapi wedi’i dargedu “wella’r rhagolygon yn fawr iawn,” meddai.
Roedd wedi bod yn rhydd o ganser nes iddo gael gwybod ym mis Ionawr eleni - ar ei ben-blwydd yn 62 oed - fod rhywbeth wedi’i ganfod yn ei ysgyfaint.
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, ychwanegodd: “Pythefnos yn ddiweddarach, roeddwn i yn yr ysbyty. Fe wnaethon nhw roi robot yn fy ysgyfaint, fe wnaethon nhw dorri allan ychydig ohono.
Ac roedd yna felanoma yn fy ysgyfaint - nid canser yr ysgyfaint, ond canser y croen yn fy ysgyfaint.
“Nawr, yn y blynyddoedd a fu, efallai mai dedfryd o farwolaeth oedd honno, ond diolch i imiwnotherapi mae fy siawns o fod yn hollol rydd o ganser ymhen 10, 15 mlynedd, yn dda iawn, iawn.”
Mae'r imiwnotherapi yn “anodd” meddai ond “mae gen i bob gobaith o fod yn hollol ddi-ganser am weddill fy oes”.
Mae Syr Chris yn annog pobl i gadw golwg ar unrhyw fan du ar eu cyrff.
“Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth am fan du, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei wirio.”