Cyhuddo tri o gynorthwyo gwasanaethau cudd wybodaeth Hong Kong
Mae tri o ddynion wedi eu cyhuddo o gynorthwyo gwasanaethau cudd-wybodaeth ac ymyrraeth dramor Hong Kong.
Y tri sydd wedi eu cyhuddo yw Chi Leung (Peter) Wai, 38, o Staines-upon-Thames; Matthew Trickett, 37, o Maidenhead a Chung Biu Yuen, 63, o Hackney.
Yn ôl Heddlu'r Met dyw'r ymchwiliad Hong Kong ddim yn gysylltiedig gydag achos arall sydd yn ymwneud â Rwsia.
Fel rhan o'r ymchwiliad cafodd 11 o bobl eu cadw yn y ddalfa.
Fe gafodd wyth o ddynion ac un fenyw eu harestio gan swyddogion gwrth-terfysgaeth ar 1 Mai yn ardal Sir Efrog. Y diwrnod canlynol fe gafodd dyn ei arestio yn Llundain a dyn arall yn ardal Sir Efrog.
Cafodd saith o ddynion ac un fenyw eu rhyddhau ar 10 Mai.