Newyddion S4C

Pobl ifanc yn wynebu talu morgeisi yn eu hoed ymddeol

13/05/2024
Cyfrifon / Arian

Mae'n bosib y bydd cannoedd ar filoedd o bobl yn parhau i dalu ei morgais pan fyddan nhw wedi ymddeol.

Mae cynnydd wedi bod yn y niferoedd sydd yn dewis cynllun morgais sydd gyda dyddiad gorffen hwyrach, yn enwedig ymhlith rhai sydd o dan 30 oed.

Y cynnydd yn y cyfraddau morgeisi yw'r rheswm pam fod pobl yn dewis talu yn ôl am gyfnod hirach.

Fe ddaeth y ffigyrau i law yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Syr Steve Webb, cyn weinidog pensiwn sydd nawr yn bartner gyda chwmni ymgynghori LCP.

Fe awgrymodd fod defnyddio cynilon er mwyn clirio morgais yn golygu y gallai pobl fod mewn tlodi yn eu henaint.

"Mae'r her o brynu'r tŷ cyntaf yn gorfodi nifer uchel o brynwyr ifanc i fentro gyda'u dyfodol wedi iddynt ymddeol trwy ddewis morgeisi hir iawn," meddai. 

Mae'r data gan Fanc Lloegr yn dangos bod 31% o forgeisi newydd yn nhri mis olaf 2021 gyda dyddiad gorffen oedd yn hwyrach na'r oed y mae rhywun yn gallu hawlio pensiwn gwladol.

Yn 2023 43% oedd y ffigwr sydd yn awgrymu bod y polisi wedi dod yn fwy poblogaidd.

 

 

 

 

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.