Gwrthblaid Georgia yn galw ar y DU i wrthwynebu bil dadleuol
Mae arweinwyr yr wrthblaid yn Georgia wedi galw ar y DU i wneud mwy i wrthwynebu'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel gweithredu llymach ar gymdeithas sifil yn y wlad.
Maent wedi galw ar yr ysgrifennydd tramor i ddangos i'r blaid sy'n llywodraethu yn y wlad, y Georgian Dream, fod y gymuned ryngwladol yn unedig yn erbyn y cynigion.
Mae disgwyl i'r Cynllun Tryloywder Dylanwad Tramor basio yn y dyddiau nesaf.
Mae gwrthwynebwyr i'r mesur wedi bod yn protestio yn y brifddinas, Tbilisi.
Byddai'r ddeddf yn gorfodi grwpiau anllywodraethol i gofrestru fel "sefydliadau sy'n gwasanaethu budd pŵer tramor" pe bai mwy nag 20% o'u cyllid yn dod o dramor.
Mae'r Georgian Dream yn dweud y byddai'r mesur yn cynyddu tryloywder ac yn amddiffyn sofraniaeth y wlad.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai'n cael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i leihau dylanwad gwrthwynebwyr a phleidiau ar drothwy etholiad cyffredinol ym mis Hydref.
Maen nhw'n dweud ei fod hefyd wedi'i gynllunio i amharu ar uchelgais Georgia i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae UDA wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn gwrthwynebu'r cynllun a'u bod yn "pryderu yn fawr am leihad democratiaeth yn Georgia".
Llun: Amnesty International