Happy Valley a Top Boy ymysg prif enillwyr gwobrau'r Bafta
Roedd y dramâu Happy Valley a Top Boy ymysg y prif enillwyr yng ngwobrau teledu'r Bafta nos Sul.
Enillodd Sarah Lancashire y wobr am yr actores orau am ei phortread o Catherine Cawood yn y ddrama Happy Valley.
Wrth siarad ar ôl ennill, dywedodd: "Dwi'n teimlo mor mor lwcus i gael fy amgylchynu gan yr actorion anhygoel yma a dwi'n diolch i bob un ohonoch chi."
Enillodd Top Boy y wobr am y ddrama orau, tra bod Jasmine Jobson wedi ei henwi'r actores gefnogol orau am ei rôl fel Jaq Lawrence yn y gyfres.
"Dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn," meddai.
Matthew Macfayden oedd yn fuddugol yn y categori actor cefnogol gorau am ei rôl yn y gyfres olaf o Succession.
Cipiodd Timothy Spall y wobr am yr actor gorau am ei bortread yn y gyfres The Sixth Commandment.
Roedd Strictly Come Dancing ymysg yr enillwyr yn y gwobrau hefyd wedi iddyn nhw ddod i'r brig yn y categori adloniant.
Dywedodd y cyd-gyflwynydd Tess Daly mai dyma oedd yr "anrheg pen-blwydd gorau" i nodi dau ddegawd ers dechrau'r gyfres.