Chweched safle i Elfyn Evans ar ddiwedd Rali Portiwgal
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali Portiwgal yn y chweched safle.
Fe gafodd broblem ar gymal 21 ddydd Sul gan orffen y cymal ar bŵer hybrid a cholli peth amser.
Fodd bynnag roedd ganddo ddigon o amser mewn llaw i ddal ei afael ar y chweched safle.
Roedd Evans yn yr wythfed safle ar ddiwedd 8 cymal ddydd Gwener a llwyddodd i godi i’r chweched safle ddydd Sadwrn ar ôl i arweinydd y rali ar y pryd Kalle Rovanperrä fynd allan o’r rali yn dilyn damwain.
Fe yrrodd Evans yn ofalus ar y cymalau ddydd Sadwrn er mwyn cadw’i safle.
Fe ddaeth y rali i ben yn dilyn pedwar cymal ddydd Sul gyda Sébastien Ogier o Ffrainc yn fuddugol.
Roedd Evans yn yr ail safle ym mhencampwriaeth y byd cyn Rali Portiwgal.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1789630133197808062
Llun: X/Elfyn Evans