Newyddion S4C

Dyn yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig

12/05/2024
Heddlu.

Mae dyn 46 oed mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog"  yn dilyn adroddiad o ymosodiad yng Nghastell-nedd.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu i’r digwyddiad ddigwydd yng nghanol y dref rhywbryd rhwng nos Wener ac oriau mân fore dydd Sadwrn.

Mae’r dyn wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r llu wedi apelio am wybodaeth gan nodi cyfeirnod 2400153040.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.