Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law i ardaloedd o Gymru

13/05/2024
Glaw / Ymbarel

Mae rhybudd melyn am law ar gyfer nifer o siroedd yn ne Cymru ddydd Llun.

Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 08:00 ddydd Llun ac yn aros mewn lle tan 23:59.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall llifogydd ar y ffyrdd amharu ar gynlluniau teithwyr.

Hefyd mae perygl o lifogydd mewn tai a busnesau mewn mannau.

Dyma restr o'r siroedd sydd yn cael eu heffeithio:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Penybont-ar-Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.