O leiaf 300 o bob wedi marw mewn llifogydd yn Affganistan
Mae o leiaf 300 o bobl wedi marw mewn llifogydd yn dilyn glaw tymhorol trwm yn Affganistan.
Mae cartrefi wedi eu dinistrio gan adael miloedd o bobl heb loches ac mae cyflenwadau dŵr a chysylltiadau trafnidiaeth wedi eu heffeithio.
Mae hofrenyddion yn helpu symud y bobl sydd wedi eu heffeithio a rhoi cyflenwadau o fwyd a dŵr iddyn nhw.
Rhanbarthau Baghlan, Takhar a Badakhshan yng ngogledd y wlad sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y llifogydd.
Dywedodd rhaglen fwyd y byd (World Food Programme) sy’n gweithredu yn Affganistan fod dros 300 o bobl wedi marw yn y llifogydd hyd yn hyn.
Mae’r wlad yn dal i geisio dygymod ag effaith daeargrynfeydd ar ddechrau’r flwyddyn a llifogydd ym mis Mawrth.
Llun: Wochit